
2011 Rhif 1605 (Cy.186)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011
Gwnaed 28 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mehefin 2011
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freinir bellach ynddynt hwy.
I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a bennir uchod, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd (gan gynnwys diod).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2011.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
 mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
 ystyr “cynnyrch perthnasol” (“relevant product”) yw llestri cegin plastig sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 284/2011 sy'n nodi amodau penodol a gweithdrefnau manwl ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn Rheoliad y Comisiwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a ddygir gan yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn; ac y mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd â'r rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(3) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf wedi eu priodoli—
(a) gan orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 , i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) gan orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;
rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'r cyfeiriad yn ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y priodolwyd y swyddogaethau iddo felly.
Torri amodau ar fewnforio llestri cegin plastig o Tsieina
3 

(1) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad yng Nghymru unrhyw gynnyrch perthnasol sydd wedi ei fewnforio i'r Undeb Ewropeaidd ac eithrio drwy gydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3) (amodau mewnforio).
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad yng Nghymru unrhyw gynnyrch perthnasol hyd nes bo—
(a) y gwiriadau a bennir ym mharagraff 1(a) ac, yn ôl fel y digwydd, paragraff 1(b) o Erthygl 6 (rheolaethau yn y man cyflwyno cyntaf) wedi eu cwblhau; a
(b) yr awdurdod bwyd wedi rhoi datganiad yn unol ag Erthygl 3(4), sy'n dynodi bod y cynnyrch perthnasol yn cydymffurfio, ac felly'n dderbyniol i'w ryddhau i gylchredeg yn rhydd.
Tramgwyddau a chosbau
4 
Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (2) o reoliad 3 yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
Awdurdodau cymwys
5 

(1) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 3(1) a (4), 4, 6(1), 7 a 9 yw pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal neu'i ddosbarth unedig ei hunan.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddiben Erthygl 6(2) yw'r Asiantaeth.
Gweithredu a gorfodi
6 

(1) Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal neu'i ddosbarth unedig ei hunan yw gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn a'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd—
(a) hysbysu'r Asiantaeth ar unwaith ynghylch canlyniadau unrhyw ddadansoddiad labordy y parodd yr awdurdod ei gynnal o dan Erthygl 6(1) os yw canlyniadau'r dadansoddiad hwnnw'n dynodi anghydymffurfiaeth; a
(b) rhoi i'r Asiantaeth pa bynnag wybodaeth a chymorth y gofynnir amdanynt gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i Gomisiwn Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflawni'r swyddogaethau a roddir i awdurdodau tollau o dan Erthygl 8.
Treuliau sy'n tarddu o reolaethau swyddogol
7 

(1) Bydd y treuliau a godir yn unol ag Erthygl 27(1) o Reoliad 882/2004, ar fewnforiwr gan awdurdod bwyd mewn cysylltiad â'r gwiriadau a grybwyllir yn Erthygl 6(1), yn daladwy gan y mewnforiwr pan roddir galwad i dalu gan yr awdurdod bwyd mewn ysgrifen.
(2) Pan fo awdurdod bwyd yn canfod anghydymffurfiaeth—
(a) â gofynion Erthygl 3(1), (2) neu (3) neu Erthygl 4; neu
(b) yn dilyn y gwiriadau a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(b),
bydd y treuliau a godir yn unol ag Erthygl 54(5) o Reoliad 882/2004, ar fewnforiwr gan awdurdod bwyd, yn daladwy gan y mewnforiwr pan roddir galwad i dalu gan yr awdurdod bwyd mewn ysgrifen.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2) ac yn rheoliad 8(3), ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau.
Hysbysiadau a gweithredoedd mewn achos o anghydymffurfiaeth
8 

(1) Os yw mewnforiwr yn cyflwyno llwyth o gynnyrch perthnasol ar gyfer ei fewnforio i Gymru, a hynny heb gyflwyno datganiad ac adroddiad labordy cysylltiedig yn unol â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3), caiff yr awdurdod bwyd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod y mewnforiwr yn cyflwyno datganiad o'r fath o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad.
(2) Os yw'r gwiriadau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 6(1) yn dynodi—
(a) pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), nad yw'r datganiad a bennir yn Erthygl 3(1) ynghyd â'r adroddiad labordy a bennir yn Erthygl 3(3) wedi ei gyflwyno erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) pan nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), nad yw'r datganiad a bennir yn Erthygl 3(1) ynghyd â'r adroddiad labordy a bennir yn Erthygl 3(3) wedi ei gyflwyno; neu
(c) bod datganiad neu adroddiad labordy wedi ei gyflwyno nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1), (2) a (3); neu
(ch) nad yw'r cynnyrch perthnasol sy'n destun y gwiriadau yn bodloni—
(i) prawf adnabod, neu
(ii) gofynion Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd,
rhaid i'r awdurdod bwyd gymryd y camau a bennir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i'r awdurdod bwyd, drwy hysbysiad ysgrifenedig—
(a) gwneud yn ofynnol bod y mewnforiwr, o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad—
(i) yn ail anfon y llwyth, i rywle sydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd,
(ii) yn achos llestri cegin polyamid, eu rhwygo a'u toddi, a ffurfio'r cynnyrch canlyniadol yn eitemau at ddibenion ac eithrio'u rhoi mewn cysylltiad â bwyd, neu
(iii) ar gost y mewnforiwr, dinistrio'r llwyth dan reolaeth swyddogol; a
(b) hysbysu'r mewnforiwr y caiff yr awdurdod, yn unol ag Erthygl 54(2) a (5) o Reoliad 882/2004, os na chydymffurfir â gofynion is-baragraff (a), drefnu i ddinistrio'r llwyth ac adennill y costau storio a dinistrio oddi ar y mewnforiwr.
(4) Ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan baragraff (1) neu (3) i'r mewnforiwr neu i gynrychiolydd y mewnforiwr.
Hawliau apelio
9 

(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 8(3) apelio i lys ynadon.
(2) Y weithdrefn a ddilynir mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980 yn gymwys i'r gweithrediadau.
(3) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan baragraff (1) fydd un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyrir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(4) Os yw llys ynadon, mewn apêl o dan baragraff (1), yn penderfynu bod penderfyniad y swyddog awdurdodedig yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i benderfyniad y llys.
(5) Caiff person a dramgwyddir gan wrthodiad llys ynadon i ganiatáu apêl a wnaed i'r llys o dan baragraff (1), apelio i Lys y Goron.
(6) Pan fo apêl wedi ei dwyn o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), atelir effaith hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 8(3) hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol.
Atal dros dro ddynodiad man cyflwyno cyntaf
10 

(1) Pan fo'r Asiantaeth wedi ei bodloni y byddai parhau i weithredu man cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 yn achosi risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, caiff atal dros dro ddynodiad y man cyflwyno cyntaf, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw, i weithredwr y man cyflwyno.
(2) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (1), bydd y man cyflwyno yn peidio â bod yn fan cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 i'r graddau a bennir felly yn yr hysbysiad hwnnw, hyd nes dynodir ef felly drachefn o dan Erthygl 5.
Cymhwyso amrywiol adrannau o'r Ddeddf
11 

(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad—
(i) bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dorri rheoliad 3 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a
(ii) yn is-adran (4), ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(c) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(a) uchod;
(d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b) isod;
(dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn is-adran (1) at y Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn.
(3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w dehongli fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn a'r Rheoliadau hyn—
(a) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(b) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i'w ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (a) uchod; ac
(c) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 4 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau sy'n gosbadwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
Adolygu statudol
12 

(1) Cyn diwedd pob cyfnod adolygu, rhaid i'r Asiantaeth—
(a) cynnal adolygiad o reoliadau 3 i 11;
(b) nodi casgliadau'r adolygiad mewn adroddiad; ac
(c) cyhoeddi'r adroddiad.
(2) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r Asiantaeth, i'r graddau y bo'n rhesymol, roi sylw i'r modd y gweithredir ac y gorfodir Rheoliad y Comisiwn mewn Aelod-wladwriaethau eraill.
(3) Yn benodol, rhaid i'r adroddiad—
(a) nodi'r amcanion y bwriedir i'r system reoleiddiol a sefydlir gan y Rheoliadau hyn eu cyrraedd;
(b) asesu i ba raddau y cyrhaeddwyd yr amcanion hynny; ac
(c) asesu a yw'r amcanion hynny'n parhau'n briodol, ac os felly, i ba raddau y gellid eu cyrraedd gyda system sy'n gosod llai o reoleiddio.
(4) Ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw—
(a) y cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (5), pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd.
(5) Os cyhoeddir yr adroddiad o dan y rheoliad hwn cyn diwrnod olaf y cyfnod adolygu y mae'r adroddiad yn ymdrin ag ef, bydd y cyfnod adolygu dilynol yn cychwyn gyda'r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2011