
2011 Rhif 1597 (Cy.185) (C.61)
ADEILADU, CYMRU
Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
Wedi'i wneud 28 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.
Rhychwant a chymhwyso'r darpariaethau sy'n dod i rym
2 
Mae Rhan 8 o'r Ddeddf yn dod i rym i'r graddau y mae'n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2011
3 
Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Hydref 2011—
(a) adran 138 at yr holl ddibenion eraill;
(b) adrannau 139 i 145.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2011