
2011 Rhif 1588 (Cy.183)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 22 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2011
Yn dod i rym 1 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rhagarweiniol
2 
Diwygir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 fel a ganlyn.
Dehongli Rheoliadau 2000
3 

(1) Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn—
(i) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 1982”
(ii) yn y diffiniad o “person anabl” hepgorer y geiriau “dros ddwy flwydd oed”;
(iii) yn nhestun Saesneg y diffiniad o “holder”, yn lle “institution” rhodder “organisation”;
(iv) yn y testun Saesneg, hepgorer y diffiniadau o “institution” ac “institutional badge”;
(v) yn y testun Saesneg, yn union ar ôl y diffiniad o “issuing authority”, hepgorer y gair “and”;
(vi) yn y testun Saesneg, ar ôl y diffiniad o “local authority”, mewnosoder—“
 “organisation” (“sefydliad”) means an organisation concerned with the care of disabled persons to which a disabled person’s badge may be issued in accordance with section 21(4) of the 1970 Act; and
 “organisational badge” (“bathodyn sefydliad”) means a disabled person’s badge issued to an organisation.”
Dirymu darpariaethau darfodedig o Reoliadau 2000
4 

(1) Diwygir rheoliad 3 fel a ganlyn.
(2) Hepgorer paragraffau (1) a (2).
(3) Newidier y pennawd yn unol â hynny i “Darpariaeth drosiannol”.
Disgrifiadau o bersonau anabl
5 

(1) Diwygir rheoliad 4 fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y caniateir rhoi bathodyn person anabl iddo yw—
(a) person dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn un neu ragor o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2);
(b) person nad yw dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn y naill neu'r llall neu'r ddau o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (3).”
(3) Ym mharagraff (2)—
(a) Ar ôl “disgrifiadau” mewnosoder “y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a)”;
(b) Yn is-baragraff (b)—
(i) hepgorer y geiriau “defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n”; a
(ii) yn lle “ag adran 5(2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977”, rhodder “â pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 a pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006”;
(c) ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—“
(ch2) wedi—
(i) cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011 o fewn y lefelau tariff 1 i 8 (yn gynwysedig); a
(ii) wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn;”.
(ch) yn lle is-baragraff (d) rhodder—“
(d) yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd; sydd ag anabledd difrifol i'w ddwy fraich ac yn analluog i weithredu, neu'n cael anhawster sylweddol i weithredu, pob math neu rai mathau o feter parcio.”.
(4) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraffau canlynol—“
(3) Y disgrifiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
(a) plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, fynd ag offer meddygol swmpus gydag ef, na ellir ei gludo o amgylch gyda'r plentyn heb beri anhawster mawr;
(b) plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, gael ei gadw'n agos at gerbyd modur er mwyn rhoi triniaeth ar gyfer y cyflwr hwnnw pe bai angen, naill ai yn y cerbyd neu drwy gludo'r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i fan lle y gellir rhoi triniaeth o'r fath.
“(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)  mae “offer meddygol swmpus” (“bulky medical equipment”) yn cynnwys yn benodol unrhyw un o'r canlynol—
(i) peiriannau anadlu;
(ii) peiriannau sugno;
(iii) pympiau bwydo;
(iv) offer parenterol;
(v) gyrwyr chwistrelli;
(vi) offer gweini ocsigen;
(vii) offer ar gyfer monitro dirlawnder ocsigen parhaus; ac
(viii) castiau a chyfarpar meddygol cysylltiedig ar gyfer cywiro dysplasia'r glun.
(b) mae i “meter parcio” (“parking meter”) yr ystyr a roddir i “parking meter” yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gweler adrannau 46(2)(a) a 142(1)).”
Bathodynnau sefydliad
6 
Yn lle rheoliad 5 o'r testun Saesneg, rhodder—“
Organisational badges
5 
An organisational badge may be issued to an organisation for a motor vehicle which is to be used to carry disabled persons falling within one or more of the descriptions specified in regulation 4(2) or (3).”
Cyfnod rhoi bathodyn
7 
Yn lle rheoliad 6(2) rhodder—“
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7(2) a 9, rhoddir bathodyn person anabl—
(a) i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(1)(b), am gyfnod sy'n diweddu ar y diwrnod yn union ar ôl trydydd pen-blwydd y person hwnnw;
(b) i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(ch), am ba un bynnag yw'r byrraf o'r canlynol—
(i) y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi; neu
(ii) y cyfnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi ac yn dod i ben ar y dyddiad y bydd y person hwnnw'n peidio â chael cyfradd uwch cydran symudedd y lwfans byw i'r anabl neu'r atodiad symudedd;
(c) i berson nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b), am gyfnod o 3 blynedd sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi.”
Seiliau dros wrthod rhoi bathodyn
8 
Yn rheoliad 8(2)(b)(ii) o'r testun Saesneg, yn lle “institution” yn y ddau fan y mae'n digwydd rhodder “organisation”.
Dychwelyd bathodyn i'r awdurdod rhoi
9 
Yn rheoliad 9(1) o'r testun Saesneg—
(a) yn lle “institutional” yn y ddau fan y mae'n digwydd, rhodder “organisational”; a
(b) yn lle “institution” yn y ddau fan y mae'n digwydd, rhodder “organisation”.
Ffurf bathodyn
10 

(1) Yn rheoliad 11(a)(ii) o'r testun Saesneg, yn lle “institutional” rhodder “organisational”.
(2) Yn y testun Saesneg, yn lle Rhan II o'r Atodlen i Reoliadau 2000, rhodder y Rhan II a ddangosir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n effeithio ar ddilysrwydd bathodyn—
(a) a roddwyd cyn bo'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym; a
(b) a oedd mewn ffurf a oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau 2000 ar yr adeg y'i rhoddwyd.
Arddangos bathodyn sefydliad
11 

(1) Yn nhestun Saesneg rheoliadau 15 ac 16, yn lle “institutional” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “organisational”.
(2) Yn unol â hynny, yn y testun Saesneg, newidier pennawd rheoliad 15 i “Display of an organisational badge when a vehicle is being driven” a phennawd rheoliad 16 i “Display of an organisational badge when a vehicle is parked”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2011
YR ATODLEN
FFURF BATHODYN — DIAGRAMAU AMNEWIDIOL
Rheoliad 10
RHAN II FFURF BATHODYN SEFYDLIAD

