
2011 Rhif 1586 (Cy.182) (C.60)
Y GYMRAEG, CYMRU
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
Gwnaed 25 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 28 Mehefin 2011—
(a) paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 o Atodlen 1, ac adran 2(2) a (3) i'r graddau mae'r isadrannau hynny yn ymwneud â'r paragraffau hynny;
(b) adran 138;
(c) adran 139;
(ch) paragraffau 1, 2 a 6 o Atodlen 12, ac adran 146 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2011