
2011 Rhif 1514 (Cy.178) (C.57)
ADEILADU, CYMRU
Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011
Wedi'i wneud 17 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.
Rhychwant a chymhwyso'r darpariaethau sy'n dod i rym
2 
Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym i'r graddau y mae'n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.
Darpariaethau sy'n dod i rym drannoeth gwneud y Gorchymyn hwn
3 
Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2011