
2011 Rhif 1504 (Cy.176)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011
Gwnaed 14 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Mehefin 2011
Yn dod i rym 1 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”) wedi cydsynio i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011 a daw i rym ar 1 Awst 2011.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac
 ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”).
Diddymu a throsglwyddo
3 
Ar 1 Awst 2011 mae pob un o'r Hen Gorfforaethau wedi eu diddymu ac mae eu holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
Trosglwyddo Staff
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan yr Hen Gorfforaethau yn union cyn 1 Awst 2011 fel petai cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy'n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2011;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at unrhyw un o'r Hen Gorfforaethau sy'n cyflogi'r person yn union cyn 1 Awst 2011; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2011