
2011 Rhif 1501 (Cy.175)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011
Gwnaed 14 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mehefin 2011
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freinir bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymiadau
2 
Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl isod (sydd â'r cyfeirnodau a restrir yng ngholofn 2) i'r graddau a ddynodir yng ngholofn 3:

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Offeryn a ddirymir Cyfeirnod Graddau'r dirymu
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 O.S. 1996/2891 O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996 O.S. 1996/3119 O ran Cymru, rheoliad 4
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997 O.S. 1997/978 O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998 O.S. 1998/809 O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998 O.S. 1998/1113 Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999 O.S. 1999/1607 O ran Cymru, yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999 O.S. 1999/2316 Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 O.S. 1999/3470 (Cy.56) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000 O.S. 2000/1735 (Cy.119) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 O.S. 2001/2071 (Cy.143) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 O.S. 2001/4006 (Cy.332) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 O.S. 2002/2799 (Cy.267) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 O.S. 2004/254 (Cy.29) Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 O.S. 2006/2800 (Cy.239) Yr offeryn cyfan
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2011