
2011 Rhif 149 (Cy.33)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 25 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Ionawr 2011
Yn dod i rym 18 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2011.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 4 mewnosoder—“
(7) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i'w cymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2010-2011 a'r flwyddyn ysgol 2011-2012.”.
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder—“
5 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2010-2011 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor y flwyddyn ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddi.
(3) Os caiff ysgol, yn ystod tymor cyntaf neu ail dymor y flwyddyn ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, ei hatal rhag cyfarfod oherwydd tywydd gwael, mae nifer y sesiynau ysgol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (2), sef pedair sesiwn, i'w leihau ar gyfer y flwyddyn honno â nifer y sesiynau ysgol pan nad oedd yr ysgol yn gallu cyfarfod (hyd at uchafswm o bedair).
(4) Pan fo paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, mae'r sesiwn honno i'w hystyried at ddibenion rheoliad 4 yn sesiwn pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
25 Ionawr 2011