
2011 Rhif 1450 (Cy.172)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011
Gwnaed 8 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mehefin 2011
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 3

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 sydd bellach wedi eu breinio ynddynt .
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enw
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), ar ddiwedd y diffiniad o “Cyfarwyddeb 08/128” ychwaneger y geiriau “fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2011/3/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/128/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd;”
Cychwyn
3 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym—
(a) o ran y cofnodion ar gyfer lycopen synthetig a lycopen o Blakeslea trispora yn adrannau (i) a (iii) yn eu tro o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2011/3/EU, ar 1 Gorffennaf 2011; a
(b) o ran y cofnodion ar gyfer lycopen o domatos coch yn adran (ii) o'r Atodiad hwnnw, ar 1 Medi 2011.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “Cyfarwyddeb 2011/3/EU” yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2011/3/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/128/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd .
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2011