
2011 Rhif 1409 (Cy.169)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
Gwnaed 2 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mehefin 2011
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(2A) o Ddeddf Tai 1988 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cynyddu'r trothwy rhent
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na chânt fod yn denantiaethau sicr) yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “£25,000” rhodder “£100,000”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.
2 Mehefin 2011