
2011 Rhif 106 (Cy.25)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2011
Gwnaed 20 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Ionawr 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 8(4), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(3), 16(4) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i'r ymadrodd “asiantaeth feddygol annibynnol” yr un ystyr ag “independent medical agency” yn adran 2(5) y Ddeddf;
 ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Gweinidogion Cymru;
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority) yw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, unrhyw ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n ceisio cael ei gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 mae i'r ymadrodd “clinig annibynnol” yr un ystyr ag “independent clinic” yn a.2(4) o'r Ddeddf;
 ystyr “cofrestredig”, “ei gofrestru” ac “ei chofrestru” (“registered”) yw cofrestredig o dan Ran 2 o'r Ddeddf;
 ystyr “cofrestriad” a “cofrestru” (“registration”) yw cofrestriad neu gofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf;
 mae i “cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4”, (“Class 3B or Class 4 laser product”), yr ystyr a roddir i'r diffiniad o “Class 3B or Class 4 laser product” yn Rhan 1 Safon Brydeinig EN 60825 – 1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser);
 ystyr “chwarter o'r flwyddyn” (“quarter of the year”) yw cyfnod o dri mis calendr yn olynol;
 ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson y darperir llety neu wasanaethau iddo mewn sefydliad ond nid yw'n cynnwys personau cofrestredig na phersonau cyflogedig na phersonau y bwriedir iddynt fod yn gyflogedig mewn sefydliad;
 mae “dialysis” (“dialysis”) yn cynnwys haemodialysis a dialysis peritoneol;
 ystyr “dyddiad priodol” (“due date”) yw naill ai pen blwydd y cofrestriad a ganiatawyd gyntaf i'r darparydd cofrestredig, neu pan fo'r cofrestriad yn gofrestriad newydd, sy'n daladwy o fewn mis ar ôl caniatáu'r cofrestriad ac wedi hynny ar ben blwydd y cofrestriad;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “enwaedu gwryw” (“male circumcision”) yw enwaedu plant gwryw gan broffesiynolyn gofal iechyd, gan gynnwys at ddibenion cadw defodau crefyddol;
 ystyr “ffi amrywiad mawr” (“major variation fee”) yw'r ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan fo'n angenrheidiol i'r awdurdod cofrestru arolygu;
 ystyr “ffi flynyddol” (“annual fee”) yw swm a ragnodir at ddibenion adran 16(3) o'r Ddeddf;
 ystyr “ffi mân amrywiad” (“minor variation fee”) yw'r ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan na fo'n angenrheidiol i'r awdurdod cofrestru ymweld er mwyn arolygu;
 ystyr “ffrwythloni in vitro” (“in vitro fertilisation”) yw gwasanaethau triniaeth y caniateir rhoi trwydded ar eu cyfer o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990;
 ystyr “golau dwys” (“intense light”) yw golau band eang anghydlynol a gaiff ei hidlo i gynhyrchu ystod benodedig o donfeddi, ac mae'r ymbelydredd hwnnw wedi ei hidlo yn cael ei gyflenwi i'r corff, gyda'r nod o beri niwed thermol, mecanyddol neu gemegol i strwythurau megis ffoliglau gwallt a namau ar y croen tra bydd yn arbed y meinweoedd o'u hamgylch;
 ystyr “hosbis” (“hospice”) yw ysbyty annibynnol y mae ei holl ddiben neu ei brif ddiben yn golygu darparu gofal lliniarol;
 ystyr “lleoedd a gymeradwywyd” (“approved places”) yw gwely sydd ar gael yn unol ag unrhyw amod a roddwyd ar gofrestriad unrhyw berson mewn cysylltiad â'r sefydliad, at ddefnydd defnyddiwr gwasanaeth yn ystod y nos;
 ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw ysbyty annibynnol neu glinig annibynnol;
 ystyr “triniaeth ddeintyddol” (“dental treatment”) yw person sydd wedi ei gofrestru yng nghofrestr y deintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984;
 ystyr “therapi hyperbarig” (“hyperbaric therapy”) yw rhoi ocsigen (p'un a chaiff ei gyfuno ag un neu ragor o nwyon ai peidio) i glaf sydd mwn siambr wedi ei selio sy'n raddol cael ei wasgeddu ag aer cywasgedig, a phan fo'r therapi hwnnw yn cael ei wneud gan ymarferydd meddygol neu o dan ei oruchwyliaeth neu ei gyfarwyddyd uniongyrchol;
 ystyr “ysbyty acíwt” (“acute hospital”) yw ysbyty annibynnol o'r math y cyfeirir ato yn adran 2(3)(a)(ii) o'r Ddeddf, nad sydd yn hosbis nac yn ysbyty iechyd meddwl, boed ganddo leoedd a gymeradwywyd, y mae o leiaf un gwasanaeth rhestredig yn cael ei ddarparu ynddo ac sy'n darparu triniaeth o dan anesthetig cyffredinol neu lonyddiad mewnwythiennol;
 mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) yr un ystyr ag yn a.2(2) ac a.2(3) o'r Ddeddf;
 ystyr “ysbyty iechyd meddwl” (“mental health hospital”) yw ysbyty annibynnol o'r math y cyfeirir ato yn adran 2(3)(a)(i) neu (b) o'r Ddeddf, sydd â lleoedd a gymeradwywyd a'i brif bwrpas yw rhoddi triniaeth feddygol ar gyfer iechyd meddwl neu anhwylder meddwl;
 ystyr “ysbyty mamolaeth” (“maternity hospital”) yw ysbyty annibynnol, a'i phrif ddiben (p'un a ddarperir gwasanaethau eraill ai peidio) yw darparu gwasanaethau obstetrig a gwasanaethau meddygol mewn cysylltiad â geni plant;
 ystyr “ysbyty nad yw'n acíwt” (“non-acute hospital”) yw ysbyty o'r math a grybwyllir yn adran 2(3)(a)(i) o'r Ddeddf, sydd gan leoedd a gymeradwywyd, sy'n darparu triniaeth feddygol ar gyfer salwch ond nad yw'n hosbis nac yn ysbyty iechyd meddwl ac nad yw'n darparu unrhyw wasanaeth rhestredig;
 ystyr “ysbyty terfynu beichiogrwydd” (“termination of pregnancy hospital”) yw ysbyty annibynnol a'i brif ddiben (p'un a ddarperir gwasanaethau eraill ai peidio) yw darparu gwasanaeth sy'n terfynu beichiogrwydd;
 ystyr “ysbyty yn darparu triniaeth gan ddefnyddio anaesthesia lleol” (“hospital providing treatment under local anaesthesia”) yw ysbyty yn rhinwedd a.2(3)(a)(ii) y Ddeddf nad sydd yn ysbyty aciwt ac nad sydd yn sefydliad sydd wedi ei eithrio o fod yn ysbyty annibynnol oherwydd rheoliad 3(3) o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011, ac sydd yn darparu triniaeth feddygol gan ddefnyddio anaesthesia lleol.
Ffioedd cofrestru
3 

(1) At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, y swm a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl ar gyfer cofrestru fel darparydd a cholofn 3 o'r tabl ar gyfer cofrestru fel rheolwr fydd y ffi sydd i fynd gyda chais gan berson sy'n gwneud cais i gael ei gofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod.

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Categori y sefydliad, asiantaeth neu driniaeth a ddarparir Darparydd sy'n geisydd ffi cofrestru Rheolwr sy'n geisydd ffi cofrestru
Ysbyty acíwt £2,500 £100
Ysbyty nad yw'n acíwt £1,500 £100
Ysbyty iechyd meddwl £2,500 £100
Ysbyty terfynu beichiogrwydd £750 £100
Ysbyty mamolaeth £1,500 £100
Ysbyty yn darparu triniaeth gan ddefnyddio anaesthesia lleol £750 £100
Hosbis £0 £0
Triniaeth ddeintyddol o dan anaesthesia cyffredinol £750 £100
Llawfeddygaeth gosmetig £2,500 £100
Ysbyty annibynnol a'i phrif ddiben yw darparu triniaeth gan ddefnyddio Techneg Ragnodedig neu Dechnoleg Ragnodedig  
Ffrwythloni In Vitro £750 £100
Cynhyrchion laser Dosbarth 3B neu 4 at ddibenion nad ydynt yn llawfeddygol £500 £100
Cynhyrchion laser Dosbarth 3B neu 4 at ddiben llawfeddygol £750 £100
Golau dwys £500 £100
Dialysis £750 £100
Endosgopi £750 £100
Therapi Hyperbarig £750 £100
Enwaedu gwryw £500 £100
Asiantaethau Meddygol Annibynnol a Clinigau Annibynnol  
Asiantaeth Feddygol Annibynnol £500 £100
Clinig Annibynnol £500 £100
Y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio amod cofrestru
4 
At ddibenion adran 15(3) o'r Ddeddf, y ffi a bennir yng ngholofn 2 fydd y ffi sydd i fynd gyda chais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o'r Ddeddf i amrywio amod cofrestru mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod.

Colofn 1 Colofn 2
Categori y ceisydd Y ffioedd ar gyfer amrywiadau mewn amodau cofrestru
Pob darparydd cofrestredig sefydliadau ac asiantaethau (ac eithrio hosbisau) Ffi amrywiad mawr: £500Ffi mân amrywiad: £250
Rheolwyr Cofrestredig £0
Y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau i ddileu amod cofrestru
5 
At ddibenion adran 15(3) o'r Ddeddf, y ffi a bennir yng ngholofn 2 fydd y ffi sydd i fynd gyda chais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o'r Ddeddf i ddileu amod cofrestru mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod.

Colofn 1 Colofn 2
Y Categori Y ffi am ddileu unrhyw amod ar gyfer cofrestru darparydd cofrestredig neu reolwr cofrestredig mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth
Pob darparydd cofrestredig sefydliadau ac asiantaethau (ac eithrio hosbisau) £50
Rheolwyr Cofrestredig £0
Ffioedd blynyddol
6 

(1) At ddibenion adran 16(3) o'r Ddeddf, bydd y darparydd cofrestredig mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod yn talu ffi flynyddol, a'r swm a bennir yng ngholofn 2 fydd swm y ffi flynyddol.

Colofn 1 Colofn 2
Categori y sefydliad, asiantaeth neu'r driniaeth a ddarparir Y ffi flynyddol
Ysbytai Annibynnol
Ysbyty nad yw'n acíwt 
Y gyfradd safonol ym mhob achos, plws £1,500
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 1–25 £200
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 26 + £100
Ysbyty acíwt 
Y gyfradd safonol ym mhob achos, plws £2,000
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 1–25 £200
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 26–59 £100
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 60 – 99 £50
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 100+ £25
Ysbyty iechyd meddwl 
Y gyfradd safonol ym mhob achos, plws £2,000
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 1–25 £200
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 26–59 £100
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 60 –99 £50
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 100+ £25
Ysbyty terfynu beichiogrwydd £1,500
Ysbyty mamolaeth 
Y gyfradd safonol ym mhob achos, plws £2,000
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 1–25 £200
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 26+ £100
Ysbyty yn darparu triniaeth gan ddefnyddio anaesthesia lleol £750
Hosbis £0
Triniaeth ddeintyddol o dan anaesthesia cyffredinol £1,500
Llawfeddygaeth gosmetig 
Y gyfradd safonol ym mhob achos, plws £2,000
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 1–25 £200
fesul lle wedi ei gymeradwyo: 26+ £50
Ysbyty annibynnol a'i phrif ddiben yw darparu triniaeth gan ddefnyddio Techneg Ragnodedig a Thechnoleg Ragnodedig
Ffrwythloni In Vitro £1,500
Cynhyrchion laser Dosbarth 3B neu 4 at ddibenion nad ydynt yn llawfeddygol £500
Cynhyrchion laser Dosbarth 3B neu 4 at ddiben llawfeddygol £750
Golau dwys £500
Dialysis £1,500
Endosgopi £1,500
Therapi hyperbarig £1,500
Enwaedu gwryw £500
Clinigau Annibynnol ac Asiantaethau Meddygol Annibynnol
Clinigau Annibynnol £500
Asiantaethau Meddygol Annibynnol £500
Sefydliad neu asiantaeth yn dod o fewn mwy nag un o'r categorïau talu ffioedd
7 

(1) Pan fo sefydliad neu asiantaeth yn dod o fewn mwy nag un o'r categorïau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl uchod, y categori y mae ffi'r gyfradd uchaf yn daladwy oddi tano a fydd yn gymwys.
(2) Bydd y ffi mewn cysylltiad â phob categori a restrir yng ngholofn 1 yn daladwy ar y dyddiad priodol.
Ad-dalu ffioedd blynyddol
8 

(1) Pan fo'r darparydd cofrestredig yn gwneud cais am ganslo ei gofrestriad o dan adran 15(1)(b) o'r Ddeddf, o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad priodol, a bod yr awdurdod cofrestru yn cytuno i ganiatáu'r cais hwnnw, yna caiff ad-daliad o hyd at 50% o'r ffi flynyddol ei dalu i'r darparydd cofrestredig.
(2) Swm yr ad-daliad y mae gan ddarparydd cofrestredig hawl iddo yw chwarter y ffi flynyddol a dalwyd ar gyfer pob chwarter cyflawn sydd yn weddill o'r cyfnod o 12 mis y mae yn daladwy ar ei gyfer, ar y dyddiad y mae'r awdurdod cofrestru yn derbyn y cais i ganslo, ac yn ddarostyngedig i uchafswm ad-daliad o 50%.
(3) Wrth gyfrifo faint o chwarteri cyflawn y flwyddyn sy'n weddill, rhaid peidio ag ystyried o gwbl y mis calendr y daw'r cais i ganslo i law.
Peidio â thalu ffi
9 
Os na chaiff y ffi flynyddol ei thalu gan y darparydd cofrestredig erbyn y dyddiad priodol, yna caiff yr awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad y darparydd cofrestredig, ac adennill y ffi fel dyled sifil.
Esemptiad rhag talu ffi
10 

(1) Pan fo darparydd unrhyw sefydliad neu asiantaeth a restrir uchod yn elusen sydd wedi ei chofrestru gan y Comisiwn Elusennol, o dan Adran 3A o Ddeddf Elusennau 1993 yna, ar yr amod bod yr unig wasanaethau y mae'r elusen yn eu darparu yn ddi-dâl ac nad yw'r gwasanaethau hynny wedi eu comisiynu gan awdurdod perthnasol, mae'r elusen yn esempt rhag talu ffi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Nid oes unrhyw ffi gwneud cais yn daladwy ble mae person yn gwneud cais i gofrestru fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth ac mae'r person wedi ei gofrestru yn barod fel rheolwr mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth arall neu yr oedd y person wedi ei gofrestru felly ddim mwy na 7 diwrnod cyn y dyddiad y gwnaethpwyd cais.
Diwygio Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006.
11 

(1) Mae Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliadau hwn.
(2) Yn lle rheoliad 1(4) rhodder—“
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol, nac i'r personau hynny sy'n gorfod cofrestru mewn perthynas â gweithredu neu reoli y sefydliad neu asiantaethau hynny a ddisgrifir yn adran 2 Ddeddf Safonau Gofal 2000.”
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
20 Ionawr 2011