
2011 Rhif 105 (Cy.24)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011
Gwnaed 18 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 30A(3) a (4) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad a anfonir o dan adran 30A(2) o'r Ddeddf
2 

(1) Rhaid i hysbysiadau a anfonir o dan adran 30A(2) o'r Ddeddf gynnwys pan fo'n briodol yr wybodaeth a roddir ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5).
(2) Rhaid i hysbysiadau o dan bob paragraff o dan adran 30A(2) gynnwys —
(a) disgrifiad o'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(b) rhif tystysgrif gofrestru'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(c) enw a chyfeiriad y person sy'n rhedeg neu'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(ch) y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad arno; a
(d) pa baragraff o adran 30A(2) o'r Ddeddf yr anfonir yr hysbysiad oddi tano.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2) (aa) neu (ab) (penderfynu i fabwysiadau neu hysbysiad i atal dros dro neu i ymestyn yr ataliad dros dro) gynnwys cyfnod parhad yr ataliad a'r rheswm drosto.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2)(b) (hysbysiad o achos am dramgwydd perthnasol) gynnwys —
(a) y dyddiad y dyroddwyd y wŷs arno;
(b) crynodeb o'r tramgwydd perthnasol honedig; ac
(c) dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf os yw'n hysbys.
(5) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2)(c) (hysbysiad yn cyfyngu ar leoedd mewn sefydliadau penodol o dan adran 22B o'r Ddeddf) gynnwys y dyddiad, os yw wedi'i bennu, pan fydd yr hysbysiad yn peidio â chael ei effaith.
Hysbysiadau o dan adran 30A(3) o'r Ddeddf
3 
Dyma'r wybodaeth ynghylch person sy'n rhedeg neu'n rheoli sefydliad neu asiantaeth ('P') y mae'n rhaid i'r awdurdod cofrestru ei rhoi i bob awdurdod lleol yn yr amodau a bennir—
(a) pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i P o dan adran 30A(2)(a) (hysbysiad o benderfyniad i fabwysiadu cynnig o dan adran 17(4)(a) o'r Ddeddf) a phan yw P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw —
(i) y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii) canlyniad apêl P.
(b) o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(aa) neu (ab) o'r Ddeddf (penderfynu i fabwysiadu neu hysbysiad i atal dros dro neu i ymestyn yr ataliad dros dro) a phan yw P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw —
(i) y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii) canlyniad apêl P.
(c) o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(b) o'r Ddeddf (hysbysiad o achos am dramgwydd perthnasol) —
(i) canlyniad yr achos yn erbyn P am y tramgwydd perthnasol hwnnw; a
(ii) pan yw P wedi apelio yn erbyn y canlyniad hwnnw, canlyniad yr apêl.
(ch) o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(c) o'r Ddeddf (hysbysiad yn cyfyngu ar leoedd mewn sefydliadau penodol o dan adran 22B o'r Ddeddf) —
(i) y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii) canlyniad apêl P.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2011