
2011 Rhif 1014 (Cy.152)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011
Gwnaed 29 Mawrth 2011
Yn dod i rym 30 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1), 6(2) a 19(1) a (2) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan adran 8(1) o'r Mesur hwnnw.

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 20(3) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mawrth 2011.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adennill gwastraff; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adennill” yr ystyron a roddir i “disposal” a “recovery” yn Erthygl 3(15) a (19) o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
 ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;
 ystyr “y system WasteDataFlow” (“the WasteDataFlow system”) yw'r system sy'n seiliedig ar y we ar gyfer adrodd am wastraff trefol a gynhelir ac a weithredir yng Nghymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
 ystyr “y targedau” (“the targets”) yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriadau at swm gwastraff trefol awdurdod lleol yn gyfeiriadau at swm gwastraff mewn tunelledd; a
(b) mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod lleol i gyfleuster gwastraff i gynnwys cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol.
RHAN 2 Monitro
Awdurdod monitro
3 

(1) Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod monitro at ddibenion y targedau.
(2) Rhaid i'r awdurdod monitro—
(a) monitro perfformiad awdurdodau lleol mewn cysylltiad â'r targedau:
(b) monitro perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c) yn unol â rheoliad 7, ddilysu'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau lleol ar y system WasteDataFlow; ac
(ch) yn ddi-oed hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, o unrhyw achos lle y mae'n ymddangos i'r awdurdod monitro bod awdurdod lleol yn atebol neu gallai fod yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn.
Rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion
4 

(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu i'r awdurdod gydymffurfio â'r gofynion sydd ganddo i gadw cofnodion o dan y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn ariannol darged ac am bob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf—
(a) cyfanswm ei wastraff trefol;
(b) cyfanswm y gwastraff trefol a anfonwyd i bob cyfleuster gwastraff gan yr awdurdod lleol;
(c) y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd ym mhob cam olynol wrth sortio ei gwastraff trefol, yn unrhyw un o'r cyfleusterau ac ym mhob un ohonynt; ac
(ch) y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd o dan baragraff (c) a waredir gan yr awdurdod lleol, neu gan gyfleuster gwastraff.
(3) Rhaid i'r cofnod gynnwys manylion am y canlynol—
(a) disgrifiad o'r gwastraff o ran y math o ddeunyddiau sydd ynddo;
(b) sut y casglwyd pob un o'r gwahanol fathau o ddeunyddiau; ac
(c) os casglwyd y gwastraff gan asiant i'r awdurdod lleol, enw'r asiant hwnnw.
(4) Rhaid cadw'r cofnodion am gyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflwynir y cofnodion yn gyntaf drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow yn unol â rheoliad 5(2).
(5) Caiff awdurdod lleol gadw'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw gan baragraff (2) ar ffurf electronig os yw'r awdurdod lleol yn gallu cynhyrchu'r testun ar ffurf dogfen weladwy a darllenadwy.
(6) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan baragraff (2) yn atebol i gosb.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “sortio” yw'r weithred o wahanu deunyddiau ailgylchu unigol o swm o wastraff cymysg neu ddeunyddiau cymysg.
(8) Yn y rheoliad hwn, caiff gwastraff trefol ei “waredu” pan fo'n mynd drwy weithred gwaredu o fath a ddynodir yn Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Rhwymedigaeth awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth
5 

(1) Yn ystod pob blwyddyn ariannol darged a phob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ffurflenni wedi eu cwblhau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a restrir yn rheoliadau 4(2) a (3) (“yr wybodaeth”) i'r awdurdod monitro.
(2) Rhaid i bob ffurflen wedi ei chwblhau—
(a) gynnwys yr wybodaeth ar gyfer y cyfnod perthnasol o 3 mis;
(b) gael ei dychwelyd o fewn un mis calendr ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 3 mis; ac
(c) gael ei chyflwyno drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow.
(3) Y cyfnodau perthnasol o 3 mis yw—
(a) 1 Ebrill hyd 30 Mehefin;
(b) 1 Gorffennaf hyd 30 Medi;
(c) 1 Hydref hyd 31 Rhagfyr;
(ch) 1 Ionawr hyd 31 Mawrth.
(4) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â'r rheoliad hwn yn atebol i gosb.
Y pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol
6 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, neu'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad a gyflwynir i awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw—
(a) dangos unrhyw gofnodion ar gyfer eu harolygu, neu eu symud ar gyfer eu harolygu yn rhywle arall, sef y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliad 4;
(b) rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth am faterion sy'n gysylltiedig â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i gyrraedd y targedau a'i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(2) Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn y ffurf ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.
(4) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad yn atebol i gosb.
Dilysu gan awdurdod monitro
7 

(1) O fewn tri mis ar ôl y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau o dan reoliad 5(2)(b), rhaid bod yr awdurdod monitro wedi cwblhau dilysu'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow.
(2) Os yw awdurdod lleol yn methu â chyflwyno ffurflen wedi ei llenwi yn unol â'r amserlen a bennir yn rheoliad 5(2)(b), rhaid i'r awdurdod monitro gwblhau dilysiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow o fewn tri mis ar ôl dyddiad pryd y cyflwynir y ffurflen wedi ei chwblhau.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “dilysu” yw—
(a) gwirio bod yr holl awdurdodau lleol wedi cyflwyno data yn unol â'u rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 5; a
(b) cysoni unrhyw ddata anghywir neu anghyson sydd wedi cael ei gyflwyno.
Asesu cydymffurfedd â'r targedau
8 

(1) Rhaid i'r awdurdod monitro o fewn pum mis calendr ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol darged, a phob blwyddyn ariannol sy'n dilyn hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf ddarparu i Weinidogion Cymru—
(a) ei wybodaeth fonitro; a
(b) adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth a roddir ym mharagraff (3).
(2) Rhaid i'r wybodaeth fonitro a'r adroddiad gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) cyfanswm y gwastraff trefol sydd wedi dod i fodolaeth ar gyfer pob awdurdod lleol;
(b) cyfanswm y gwastraff trefol a ddilyswyd gan yr awdurdod monitro sydd wedi cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, a'i gompostio;
(c) y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio ar gyfer pob awdurdod lleol;
(ch) y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae pob awdurdod lleol yn ei gyrraedd; a
(d)  y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae'r holl awdurdodau lleol, yn eu cyfanrwydd, yn ei gyrraedd.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth fonitro” yw gwybodaeth neu dystiolaeth a geir gan yr awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2).
RHAN 3 Cosbau
Cosbau: hepgor
9 
Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru naill ai hepgor y gosb, neu asesu'r swm sy'n ddyladwy ar ffurf gosb a hysbysu'r awdurdod lleol yn unol â hynny.
Cosbau: methu â chyrraedd targedau
10 
Swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo o dan adran 3(7) o'r Mesur yw £200 y dunnell y mae awdurdod lleol yn syrthio'n fyr o'r swm targed.
Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 2
11 

(1) Mae awdurdod lleol yn atebol i gosb o £1000—
(a) pan yw'n methu â chadw cofnodion yn unol â rheoliad 4;
(b) pan yw'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â rheoliad 5;
(c) pan yw'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 6.
Cosbau: cyffredinol
12 

(1) Mae unrhyw gosb a osodir gan Weinidogion Cymru yn ddyladwy fis ar ôl y dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru am swm y gosb.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb ac nid yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyladwy o dan baragraff (1), mae'r awdurdod lleol yn atebol i dalu llog ar y gosb am y cyfnod—
(a) sy'n dechrau ar y dyddiad o dan baragraff(1); a
(b) sy'n gorffen ar y diwrnod cyn y dyddiad y telir cosb a aseswyd.
(3) Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy ar gyfradd un pwynt canran yn uwch na Chyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain ar y sail o un diwrnod i'r llall.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr “Cyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain” yw'r gyfradd drimisol sterling rhwng banciau Llundain a gynigir yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r gosb yn ddyladwy a'r diwrnod cyn y dyddiad y telir y gosb i Weinidogion Cymru.
(5) Pan fydd cosb wedi cael ei hasesu a'i hysbysu i awdurdod lleol gellir adennill y gosb ac unrhyw log yr eir iddo fel dyled sifil.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fo'n daladwy.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011