
2011 Rhif 1012 (Cy.151)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
ADNODDAU DŴR, CYMRU
Gorchymyn Dŵr (Atal Llygredd) (Cod Ymarfer Amaethyddol Da) (Cymru) 2011
Gwnaed 29 Mawrth 2011
Yn dod i rym 19 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 97(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol ag adran 97(3) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dŵr (Atal Llygredd) (Cod Ymarfer Amaethyddol Da) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw'r Cod Ymarfer Amaethyddol Da i warchod ansawdd dŵr, pridd ac aer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 30 Mawrth 2011.
Cymeradwyo'r Cod Ymarfer
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo'r Cod Ymarfer i'r graddau y dyroddwyd y cod ymarfer at ddibenion—
(a) rhoi cyfarwyddyd ymarferol i bobl sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth gyda golwg ar weithgareddau a all gael effaith ar ddyfroedd wedi eu rheoli; a
(b) hybu'r hyn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arferion dymunol gan y cyfryw bersonau i osgoi llygru neu gwtogi hyd yr eithaf ar lygru unrhyw ddyfroedd o'r fath.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Dŵr (Atal Llygredd) (Cod Ymarfer) (Cymru) 1998 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011