
2011 Rhif 1009 (Cy.149)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011
Gwnaed 29 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Mawrth 2011
Yn dod i rym 21 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at offeryn Undeb Ewropeaidd, yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn Undeb Ewropeaidd hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011. Maent yn dod i rym ar 21 Ebrill 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw'r cynhyrchion hynny a restrir yn Erthygl 2(3)(a) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiadau 1.A ac 1.B iddo;
 ystyr “proseswr llaeth” (“milk processor”) yw person sy'n rhedeg sefydliad sy'n gweithgynhyrchu cynhyrchion llaeth; ac
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 479/2010 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran hysbysiadau gan Aelod-wladwriaethau i'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Darparu gwybodaeth ar brisiau cynhyrchion llaeth
3 

(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno sy'n ymwneud â phrisiau cynhyrchion llaeth y caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol at ddibenion Erthyglau 2 a 3 o Reoliad y Comisiwn.
(2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar sail reolaidd, a phennu pryd ac ym mha fformat y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth.
Tramgwyddau
4 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) ac os profir bod y tramgwydd wedi ei wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,
mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.
(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Dirymu
5 
Mae Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 wedi eu dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011