
2010 Rhif 989 (Cy.98) (C.67)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010
Gwnaed 24 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Mawrth 2010
Yn dod i rym 19 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) ac adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008, ac ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 172(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1948” (“1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948 ;
 ystyr “Deddf 1970” (“1970 Act”) yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 ;
 ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008;
 mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2;
 mae i “llety'r GIG” yr ystyr a roddir i “NHS accommodation” gan adran 24(6A) o Ddeddf 1948;
 ystyr “llety'r GIG nad yw'n ysbyty” (“non-hospital NHS accommodation”) yw llety'r GIG nad yw mewn ysbyty wedi ei freinio—
(a) yn yr Ysgrifennydd Gwladol,
(b) yn un o Ymddiriedolaethau'r GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978,
(c) mewn Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu,
(ch) mewn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu un o ymddiriedolaethau sefydledig y GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
19 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 148 o'r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol
3 
Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 24 o Ddeddf 1948 (awdurdod sy'n atebol am ddarparu llety) gan adran 148(1) yn effeithiol mewn perthynas â pherson y darperir llety'r GIG nad yw'n ysbyty ar ei gyfer yn union cyn y diwrnod penodedig cyhyd â bod y cyfnod lletya hwnnw'n parhau.
4 
Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 2 o Ddeddf 1970 gan adran 148(3) o Ddeddf 2008 yn effeithiol mewn perthynas â chwestiwn sy'n codi o dan adran 2 o Ddeddf 1970 o ran preswylfa arferol person mewn achos lle y mae'r cwestiwn, ar y diwrnod penodedig, yn destun achos llys.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2010