
2010 Rhif 823 (Cy.86)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010
Gwnaed 16 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 45D o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad y Cynulliad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Medi 2010.
Diddymu
2 
Diddymir adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu wedi hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2010