
2010 Rhif 749 (Cy.77) (C.51)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010
Gwnaed 11 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y penodedig
2 
31 Mawrth 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–
(a) adran 8(3) (darparu llety a chynhaliaeth i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol), Atodlen 2 (addasiadau darfodol o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989) ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiad ynglŷn ag adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002; a
(b) adran 34.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010