
2010 Rhif 748 (Cy.76)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 11 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mawrth 2010
Yn dod i rym 9 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 9 Ebrill 2010.
Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007
2 
Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 yn unol â rheoliadau 3 to 10.
3 
Ym mharagraff (1) of reoliad 2 (dehongli)—
(a) yn union ar ôl y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig” (“authorised activated alumina treatment”) yw—
(a) triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono, sydd wedi ei hawdurdodi yn unol ag Atodlen 1A; neu
(b) yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon a ddygir i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010;”;
(b) yn union ar ôl y diffiniad o “potel” mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy'n pennu'r amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig i dynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon;”;
(c) yn y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” yn lle'r geiriau ““techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn”” rhodder ““techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”
4 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato) rhodder y paragraff canlynol—“
(1) O ran dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad, ni chaiff neb—
(a) roi iddo unrhyw driniaeth ac eithrio —
(i) techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn,
(ii) gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a ocsigeneiddir ef yn gyntaf ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau,
(iii) dileu'r carbon deuocsid rhydd yn llwyr neu'n rhannol drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, neu
(iv) triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig; neu
(b) ychwanegu dim ato ac eithrio cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.”.
5 
Yn union ar ôl paragraff (2) o reoliad 10 (potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon) mewnosoder y paragraff canlynol—“
(2A) Ni chaiff neb beri i unrhyw ddŵr, a driniwyd ag alwmina actifedig i dynnu fflworid ohono, gael ei botelu mewn potel sydd wedi'i marcio neu'i labelu fel “dŵr ffynnon” onid yw'r driniaeth honno yn driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig.”.
6 
Yn lle paragraff (3) o reoliad 16 (gorfodi) rhodder y paragraffau canlynol—“
(3) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei chyfer gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Atodlen 1A er mwyn sicrhau y parheir i fodloni gofynion yr Atodlen honno.
(4) Rhaid i bob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(5) At y dibenion o gyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) mewn perthynas â dŵr yfed a dŵr ffynnon wedi'i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (6), fonitro ansawdd unrhyw ddŵr o'r fath yn rheolaidd, er mwyn gwirio—
(i) a yw'n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83,
(ii) a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer unrhyw baramedr sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth rhagnodedig,
(iii) a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer priodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb dan sylw, fel y'i mesurir yn ôl yr uned mesur a bennir felly,
(iv) pan fo awdurdod bwyd, yn unol ag is-baragraff (iii), yn canfod bod y dŵr dan sylw yn cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir mewn perthynas ag ef yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â Nodyn 2 i'r Atodlen honno), a oes unrhyw berygl i iechyd dynol, sy'n codi o bresenoldeb micro-organebau pathogenig yn y dŵr, a
(v) pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu'r dŵr dan sylw, a yw'r driniaeth ddiheintio a roddir yn effeithlon, ac a gedwir yr halogi gan sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb amharu ar effaith y diheintio.
(b) er mwyn cydymffurfio ag is-baragraff (a)—
(i) monitro yn rheolaidd drwy wiriadau y paramedrau, priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 10, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno), a
(ii) monitro drwy archwiliad mewn perthynas ag unrhyw baramedr a'r priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 9, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno);
(c) at ddibenion is-baragraff (b), cyflawni unrhyw samplu a dadansoddi yn unol â'r amlderau lleiaf perthnasol a bennir yn Atodlen 11; ac
(ch) cyflawni monitro ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb nad yw'n baramedr nac yn briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9, os oes rheswm gan yr awdurdod bwyd i amau y gall fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.
(6) Rhaid cyflawni'r gwiriadau a'r monitro y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(a), (b) ac (ch) gan ddefnyddio samplau sy'n gynrychiadol o ansawdd y dŵr dan sylw a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y samplau ynddi.”.
7 
Yn lle rheoliad 20 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad canlynol—“
Tramgwyddau a chosbau
20 

(1) Mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r person hwnnw—
(a) yn mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3) neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3);
(b) yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 115/2010 a bennir ym mharagraff (2); neu
(c) yn cyflawni triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig sydd â'i heffaith yn ddiheintiol.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) Erthygl 1.2 (gofyniad bod triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig yn cael eu cyflawni yn unol â'r gofynion technegol a bennir yn yr Atodiad);
(b) y frawddeg gyntaf o Erthygl 2 (gofyniad bod maint y gweddillion a ryddheir i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon o ganlyniad i unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig mor isel ag y bo'n ddichonadwy yn dechnegol yn unol â'r arferion gorau, ac nad yw'n achosi risg i iechyd y cyhoedd);
(c) yr ail frawddeg o Erthygl 2 (gofyniad bod gweithredwyr, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r frawddeg gyntaf o Erthygl 2, yn cyflawni ac yn monitro'r camau prosesu critigol a bennir yn yr Atodiad);
(ch) Erthygl 3.1 (gofyniad i hysbysu'r awdurdodau cymwys ynghylch gweithredu triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, dri mis, o leiaf, cyn defnyddio'r driniaeth); a
(d) Erthygl 4 fel y'i darllenir ynghyd ag ail baragraff Erthygl 5 (gofyniad, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod y label ar ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon y rhoddwyd unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig iddo, yn cynnwys gwybodaeth benodedig, yn agos at y datganiad o'r cyfansoddiad dadansoddol).”.
8 
Yn union ar ôl Atodlen 1 (amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn), mewnosoder yr Atodlen a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
9 
Yn union ar ôl Atodlen 8 (Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio) ychwaneger yr Atodlenni a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
10 
Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn—
(1) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “dŵr yfed”, yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” yn is-baragraff (b) rhodder y geiriau ““spring water””;
(2) Yn rheoliadau 2(1), 6(1)(a)(i), 8(2)(ch), 10(2), 11(3)(c) ac 16(2), yn lle'r geiriau “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” ym mha le bynnag y digwyddant, rhodder y geiriau “techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”;
(3) Yn rheoliad 8(1)(dd), yn lle'r geiriau ““gall fod yn ddiwretig”” rhodder ““may be diuretic”” ac yn lle'r geiriau ““gall fod yn garthydd”” rhodder ““may be laxative””;
(4) Yn rheoliad 8(1)(e), yn lle'r geiriau ““mae'n ysgogi treuliad”” rhodder ““stimulates digestion””, ac yn lle'r geiriau ““gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog”” rhodder ““may facilitate the hepato-biliary functions””;
(5) Yn rheoliad 9(1), yn lle'r cyfeiriad cyntaf at y geiriau ““dŵr mwynol naturiol”” rhodder y geiriau ““natural mineral water””;
(6) Yn rheoliad 10(1), yn lle'r geiriau “neu “dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””;
(7) Yn rheoliad 11(1), (2), (3) yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(8) Yn rheoliad 12 yn lle ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(9) Yn rheoliad 14(a)(ii) a (b)(ii), yn lle'r geiriau ““dŵr mwynol”” rhodder ““mineral water””;
(10) Ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010
ATODLEN 1
ATODLEN I'W MEWNOSOD YN UNION AR ÔL ATODLEN 1 I REOLIADAU DŵR MWYNOL NATURIOL, DŵR FFYNNON A DŵR YFED WEDI'I BOTELU (CYMRU) 2007
Rheoliad 8

“
ATODLEN 1A
AMODAU AR GYFER TRIN DŵR MWYNOL NATURIOL A DŵR FFYNNON GYDAG ALWMINA ACTIFEDIG I DYNNU FFLWORID OHONYNT
Rheoliadau 2(1) ac 16(3)
1 
Rhaid i berson sy'n ceisio cael awdurdodiad ar gyfer triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono—
(a) gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol yr echdynnir y dŵr yn ei ardal;
(b) caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio'r dull o drin arfaethedig, a lleoliad y driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; ac
(c) darparu pa bynnag wybodaeth, i gefnogi'r cais, y gofynnir amdani gan yr awdurdod perthnasol.
2 
Rhaid i'r awdurdod perthnasol asesu'r cais ac unrhyw wybodaeth sydd yn ei feddiant a rhaid iddo awdurdodi'r driniaeth os bodlonir ef—
(a) y cydymffurfir ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 mewn perthynas â'r driniaeth; a
(b) nad yw'r driniaeth yn cael effaith ddiheintiol.
3 
Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 2, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd masnachol o'r driniaeth yn effeithiol.
4 
Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwrthod awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 2, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen, gan ddatgan ei resymau.
5 
Pan fo triniaeth wedi ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 2, rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth, er mwyn galluogi'r awdurdod perthnasol i asesu a yw'r amodau ym mharagraff (2) yn parhau i gael eu bodloni—
(a) caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod archwilio'r dull o gyflawni'r driniaeth, a lleoliad y driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; a
(b) darparu pa bynnag wybodaeth i gefnogi'r cais, y gofynnir amdani gan yr awdurdod perthnasol.
6 
Os bodlonir yr awdurdod perthnasol nad yw'r amodau a bennir ym mharagraff 2 bellach yn cael eu cyflawni, caiff dynnu'n ôl awdurdodiad o driniaeth drwy roi i'r person sy'n gweithredu'r driniaeth honno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau dros dynnu'n ôl.
7 
Pan fo'r awdurdod perthnasol wedi hysbysu ceisydd o dan baragraff 4 o'i wrthodiad i awdurdodi triniaeth o dan baragraff 2, neu os yw'n tynnu awdurdodiad o driniaeth yn ôl o dan baragraff 6, caniateir i'r person sy'n dymuno cyflawni'r driniaeth wneud cais i'r Asiantaeth am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.
8 
Pan ddaw cais am adolygiad i law'r Asiantaeth rhaid iddi —
(a) wneud pa bynnag ymholiad ynglŷn â'r mater ag a fydd yn ymddangos yn briodol i'r Asiantaeth; a
(b) ar ôl ystyried canlyniadau'r ymholiad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddatgelir yn ei sgil, naill ai cadarnhau'r penderfyniad, neu gyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i ganiatáu neu adfer, yn ôl fel y digwydd, awdurdodiad ar gyfer y driniaeth y gwnaed y cais ynglŷn â hi.
9 
Yn achos cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwnnw.”.

ATODLEN 2
ATODLENNI I'W HYCHWANEGU YN UNION AR ÔL ATODLEN 8 I REOLIADAU DŵR MWYNOL NATURIOL, DŵR FFYNNON A DŵR YFED WEDI'I BOTELU (CYMRU) 2007
Rheoliad 9

“
ATODLEN 9
PRIODWEDDAU, ELFENNAU, SYLWEDDAU AC ORGANEBAU AC EITHRIO'R PARAMEDRAU Y MAE'N RHAID MONITRO DRWY ARCHWILIAD I BENDERFYNU EU CRYNODIAD NEU'U GWERTH MEWN DŵR YFED A BOTELWYD NEU DDŵR FFYNNON
Rheoliad 16(5)(a)(iii), (b)(ii) ac (ch)


Priodwedd, elfen, sylwed neu organeb Crynodiad neu werth Uned Nodiadau
Amoniwm 0.50 mg/l 
Clorid 250 mg/l Nodyn 1
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) 0 nifer/ 100 ml Nodyn 2
Dargludedd 2500 μS cm-1 ar 20oC Nodyn 1
Haearn 200 μg/l 
Ocsidiadwyedd 5.0 mg/ l O2 Nodyn 3
Bacteria colifform 0 nifer/ 250 ml 
Cyfanswm carbon organig (CCO) Dim newid annormal  Nodyn 4
Nodyn 1: Ni ddylai'r dŵr fod yn ymosodol.
Nodyn 2: Nid oes angen mesur y paramedr hwn ac eithrio pan fo'r dŵr yn tarddu o ddŵr wyneb neu y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb
Nodyn 3: Nid oes angen mesur y paramedr hwn os dadansoddir y paramedr CCO.
Nodyn 4: Nid oes angen cymhwyso'r paramedr hwn yn achos cyflenwadau o lai na 10000 m3 /diwrnod.
ATODLEN 10
PARAMEDRAU, PRIODWEDDAU, ELFENNAU, SYLWEDDAU AC ORGANEBAU Y MAE'N RHAID MONITRO MEWN PERTHYNAS Å HWY DRWY WIRIADAU
Rheoliad 16(5)(b)(i)


 Alwminiwm (Nodyn 1)
 Amoniwm
 Lliw
 Dargludedd
 Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) (Nodyn 2)
 Escherichia coli (E. Coli)
 Crynodiad ïonau hydrogen
 Haearn (Nodyn 1)
 Nitraid (Nodyn 3)
 Arogl
 Pseudomonas aeruginosa
 Blas
 Cyfrifau cytrefi ar 22°C a 37°C
 Bacteria colifform
 Cymylogrwydd
 Nodyn 1: Angenrheidiol yn unig pan ddefnyddir ef fel clystyrydd
 Nodyn 2: Angenrheidiol yn unig os yw'r dŵr yn tarddu o ddŵr wyneb neu y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb
 Nodyn 3: Angenrheidiol yn unig pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio

ATODLEN 11
AMLDERAU LLEIAF AR GYFER SAMPLU A DADANSODDI DŵR FFYNNON A DŵR YFED A BOTELWYD
Rheoliad 16(5)(c)



Amlder lleiaf samplu a dadansoddi dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion gyda'r bwriad o'i werthu
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i'w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod  m3 Monitro drwy wiriadau: nifer o samplau bob blwyddyn Monitro drwy archwiliad: nifer o samplau bob blwyddyn
≤ 10 1 1
> 10 ≤ 60 12 1
> 60 1 am pob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint 1 am pob 100m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint
.
”.
