
2010 Rhif 736 (Cy.73) (C.50)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010
Gwnaed 10 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
Diwrnodau penodedig
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010:
(a) adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (b);
(b) paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir).
3 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 2 Ebrill 2010:
(a) adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 184 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);
(c) Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998—
(i) yn adran 17(6), y geiriau o “but” ymlaen,
(ii) adran 47A(6),
(iii) yn adran 48(4), y geiriau o “the approval” hyd at “and for”,
(iv) yn Atodlen 14, paragraff 1(1) i (6), yn Atodlen 15, paragraffau 1(4) a (6), 2(5) a 3.
Darpariaeth drosiannol
4 
Dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, gan baragraffau 3 i 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 a'r diddymiad yn Rhan 6 o Atodlen 18 i Ddeddf 2006 o baragraff 1(1) i (6) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010