
2010 Rhif 730 (Cy.71)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010
Gwnaed 10 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 124 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau dileer y geiriau—“
 Isle of Man”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010