
2010 Rhif 71 (Cy.17)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010
Gwnaed 14 Ionawr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Ionawr 2010
Yn dod i rym 15 Chwefror 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff cynrychioliadol y barnwyd eu bod yn addas yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Traffordd yr M4” (“the M4 Motorway”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4.
Gosod terfyn cyflymder
3 
Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd wrth Gyffordd 24 Traffordd yr M4, Cyfnewidfa Coldra, yn Ninas Casnewydd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2010
YR ATODLEN
Darnau o slipffyrdd Traffordd yr M4 wrth Gyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra yn Ninas Casnewydd


 Y FFORDD YMADAEL TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt 123 o fetrau i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMUNO TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 25 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd Cyfnewidfa Coldra.
 Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN (Y LÔN AR WAHÅN)
Y darn hwnnw o'r ffordd ar wahân i ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48.
 Y FFORDD YMUNO TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 6 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
