
2010 Rhif 707 (Cy.68) (C.45)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2010
Gwnaed 7 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 216(3), (4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2010.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
Y diwrnod penodedig
3 
Daw'r darpariaethau canlynol o Ddeddf 2002 i rym ar 12 Ebrill 2010:
(a) adran 19(8) (cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir);
(b) adran 20(4) (offerynnau llywodraethu cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir);
(c) adran 24 (ffedereiddio ysgolion); ac
(ch) adran 25 (ffederasiynau: darpariaethau atodol).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2010