
2010 Rhif 66 (Cy.16)
DŴR, CYMRU
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010
Gwnaed 13 Ionawr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Ionawr 2010
Yn dod i rym 4 Chwefror 2010

Dynodir Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
RHAN 1 Safonau dŵr
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 4 Chwefror 2010.
Cwmpas
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwadau preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl” (“water intended for human consumption”) yw—
(a) pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo'i darddiad a pha un a'i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;
(b) pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw ymgymeriad cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl.
Esemptiadau
3 
Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag —
(a) dŵr y mae'r Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 yn gymwys iddo;
(b) dŵr sy'n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968; neu
(c) dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw'n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy'n tarddu o'r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.
Iachusrwydd
4 
Mae dŵr yn iachus os bodlonir pob un o'r amodau canlynol —
(a) nad yw'n cynnwys unrhyw ficro-organeb, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hunan neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn creu perygl posibl i iechyd dynol;
(b) ei fod yn cydymffurfio â'r crynodiadau a'r gwerthoedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; ac
(c) yn y dŵr:nitrate(mg/l)50+nitrite(mg/l)3≤1
Diheintio
5 

(1) Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991)—
(a) cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw unrhyw halogi gan sgil-gynhyrchion dihentio mor isel ag y bo modd,
(b) cyflawni'r broses honno heb beryglu perfformiad y broses o ddiheintio,
(c) sicrhau y cynhelir perfformiad y broses o ddiheintio,
(ch) er mwyn gwirio perfformiad y broses o ddiheintio, cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a gyflawnir i gydymffurfio â gofynion y broses ddiheintio, a
(d) cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “diheintio” yw proses o drin dŵr er mwyn—
(a) tynnu ymaith; neu
(b) gwneud yn ddiniwed i iechyd dynol,
pob micro-organeb pathogenig a pharasit pathogenig a fyddai, fel arall, yn bresennol yn y dŵr.
Gofyniad i gynnal asesiad risg
6 

(1) Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg, o fewn pum mlynedd o'r adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac wedyn bob pum mlynedd (neu'n gynharach os ystyrir hynny'n angenrheidiol, neu os yw o'r farn bod yr asesiad risg blaenorol yn annigonol) o bob cyflenwad preifat sy'n cyflenwi dŵr i unrhyw fangre yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad sy'n cyflenwi dŵr i annedd breifat sengl yn unig, ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol).
(2) Rhaid iddo hefyd gynnal asesiad risg o gyflenwad preifat i annedd breifat sengl yn ei ardal os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
(3) Rhaid i'r asesiad risg benderfynu a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.
RHAN 2 Monitro
Monitro
7 
Rhaid i awdurdod lleol fonitro'r holl gyflenwadau preifat yn unol â'r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Dosbarthu ymhellach cyflenwadau a geir gan ymgymerwyr dŵr neu gyflenwyr dŵr trwyddedig
8 
Pan gyflenwir dŵr gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig ac yna dosberthir y dŵr hwnnw ymhellach gan berson nad yw'n ymgymerwr dŵr nac yn gyflenwr dŵr trwyddedig, rhaid ymgymryd ag unrhyw fonitro y dangosir ei fod yn angenrheidiol yn yr asesiad risg.
Cyflenwadau mawr a chyflenwadau i fangreoedd masnachol neu gyhoeddus
9 
Yn achos cyflenwad preifat (ac eithrio cyflenwad fel a nodir yn rheoliad 8) sydd —
(a) yn cyflenwi cyfaint dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor o ddŵr, neu
(b) yn cyflenwi dŵr i fangre lle y defnyddir y dŵr ar gyfer gweithgaredd masnachol, neu i fangre gyhoeddus,rhaid i'r awdurdod lleol fonitro yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw fonitro ychwanegol y mae'r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.
Cyflenwadau preifat eraill
10 

(1) Ym mhob achos arall ac eithrio cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol, neu gyflenwad sy'n gymwys o dan reoliadau 8 a 9, rhaid i'r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—
(a) dargludedd;
(b) enterococi;
(c) Escherichia coli (E. coli);
(ch) y crynodiad ïonau hydrogen;
(d) cymylogrwydd;
(dd) unrhyw baramedr yn Atodlen 1 y nodir, yn yr asesiad risg, bod risg y gallai beidio â chydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn yr Atodlen honno; ac
(e) unrhyw beth arall y nodir yn yr asesiad risg y gallai greu perygl posibl i iechyd dynol.
(2) Rhaid iddo fonitro o leiaf bob pum mlynedd a chyflawni monitro ychwanegol os yw'r asesiad risg yn dangos bod hynny'n angenrheidiol.
(3) Yn achos cyflenwad preifat i annedd breifat sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol, caiff awdurdod lleol fonitro'r cyflenwad yn unol â'r rheoliad hwn, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu'r meddiannydd.
Samplu a dadansoddi
11 

(1) Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad preifat, rhaid iddo gymryd sampl—
(a) os cyflenwir y dŵr at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel rheol i ddarparu dŵr i'w yfed gan bobl, ac os oes mwy nag un tap, o dap sy'n gynrychiadol o'r dŵr a gyflenwir i'r fangre;
(b) os defnyddir y dŵr mewn ymgymeriad cynhyrchu bwyd, o'r pwynt lle y'i defnyddir yn yr ymgymeriad;
(c) os cyflenwir y dŵr o dancer, o'r pwynt lle mae'n dod allan o'r tancer;
(ch) mewn unrhyw achos arall, o bwynt addas.
(2) Rhaid iddo sicrhau wedyn y dadansoddir y sampl.
(3) Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â samplu a dadansoddi.
Cynnal cofnodion
12 
Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn perthynas â phob cyflenwad preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 4.
Cyflwyno gwybodaeth
13 
Erbyn 31 Gorffennaf 2010, ac erbyn 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i bob awdurdod lleol—
(a) anfon copi o'r cofnodion a nodir yn Atodlen 4 at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru; a
(b) anfon copi o'r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano.
RHAN 3 Gweithredu yn dilyn methiant
Darparu gwybodaeth
14 
Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod cyflenwad preifat yn ei ardal yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol i sicrhau bod y bobl sy'n debygol o yfed dŵr ohono—
(a)  yn cael gwybod bod y cyflenwad yn creu perygl posibl i iechyd dynol;
(b) pan fo modd, yn cael gwybod pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl; ac
(c) yn cael cyngor i'w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o'r fath.
Ymchwilio
15 
Rhaid i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad i ganfod yr achos os yw'n amau bod y cyflenwad yn afiachus neu nad yw paramedr dangosydd yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn Rhan 2 o Atodlen 1.
Gweithdrefn yn dilyn ymchwiliad
16 

(1) Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi canfod achos afiachusrwydd y dŵr, rhaid iddo weithredu yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid iddo roi gwybod yn ddi-oed i'r bobl a wasanaethir a chynnig cyngor iddynt ynghylch y mesurau sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd dynol.
(3) Fel arall, os na all yr awdurdod lleol ddatrys y broblem yn anffurfiol—
(a) caiff yr awdurdod lleol, os gwneir cais, ganiatáu awdurdodiad yn unol â rheoliad 17(2) os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw; a
(b) os nad yw'n caniatáu awdurdodiad, rhaid i'r awdurdod lleol (neu, yn achos cyflenwad i annedd breifat sengl, caiff yr awdurdod lleol) gyflwyno hysbysiad, naill ai'n unol ag adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu o dan reoliad 18 os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw.
Awdurdodi safonau gwahanol
17 

(1) Caiff unrhyw berson wneud cais i awdurdod lleol am ganiatáu awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.
(2) Caiff awdurdod lleol ganiatáu awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn —
(a) os yr unig achos sy'n peri bod y dŵr yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);
(b) os yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori gyda'r holl ddefnyddwyr dŵr y mae'r awdurdodiad yn effeithio arnynt a chyda'r Asiantaeth Diogelu iechyd ar gyfer yr ardal, ac wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth;
(c) os nad yw caniatáu'r awdurdodiad yn achosi risg i iechyd dynol; ac
(d) os na ellir cynnal y cyflenwad dŵr drwy unrhyw ddull rhesymol arall.
(3) Rhaid i awdurdodiad wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn gweithredu dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â'r paramedrau angenrheidiol, a rhaid iddo nodi —
(a) y person y caniateir yr awdurdodiad iddo;
(b) y cyflenwad sydd dan sylw;
(c) y sail ar gyfer caniatáu'r awdurdodiad;
(ch) y paramedrau sydd dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol a'r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;
(d) yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint y dŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;
(dd) cynllun monitro priodol ynghyd â chynnydd yn amlder y monitro pan fo angen;
(e) crynodeb o'r cynllun i weithredu'r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith, amcangyfrif o'r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; ac
(f) cyfnod parhad yr awdurdodiad.
(4) Os yw awdurdod lleol yn caniatáu awdurdodiad, a'r person y'i caniateir iddo yn gweithredu yn unol â'r amserlen gwaith a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ynglŷn â'r materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu'r awdurdodiad.
(5) Rhaid i gyfnod parhad yr awdurdodiad fod mor fyr ag y bo modd, ac ni chaiff beth bynnag fod yn hwy na thair blynedd.
(6) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a wasanaethir yn cael gwybod mewn da bryd am yr awdurdodiad ac amodau'r awdurdodiad, a phan fo angen, rhaid iddo sicrhau y rhoddir cyngor i grwpiau penodol a allai fod dan risg arbennig oherwydd yr awdurdodiad.
(7) Os yw'r cyflenwad yn fwy na 1,000 mΔ y diwrnod ar gyfartaledd, neu'n gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau, rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r awdurdodiad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru o fewn un mis.
(8) Rhaid i'r awdurdod lleol gadw hynt y gwaith unioni dan arolwg.
(9) Os oes angen, gyda chaniatâd ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol ganiatáu ail awdurdodiad am hyd at dair blynedd ychwanegol, ond os yw'n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi o'r awdurdodiad ynghyd â sail y penderfyniad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru.
(10) Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio'r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei amrywio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.
RHAN 4 Gweithdrefn hysbysu
Hysbysiadau
18 

(1) Os yw unrhyw gyflenwad preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad i'r person perthnasol (“relevant person”) (fel a ddiffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991) o dan y rheoliad hwn, yn hytrach na hysbysiad o dan yr adran honno.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a) nodi'r cyflenwad preifat y mae'n ymwneud ag ef;
(b) datgan y sail dros gyflwyno'r hysbysiad;
(c) gwahardd defnyddio neu gyfyngu ar y defnydd o'r cyflenwad hwnnw; ac
(ch) pennu pa gamau eraill y mae angen eu cymryd i ddiogelu iechyd dynol.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r defnyddwyr yn ddi-oed ynglŷn â'r hysbysiad, a darparu pa bynnag gyngor sydd ei angen.
(4) Ceir gwneud yr hysbysiad yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol ddirymu'r hysbysiad ar unwaith pan nad oes bellach unrhyw berygl posibl i iechyd dynol.
(6) Mae torri neu beidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn dramgwydd.
Apelau
19 

(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a roddir o dan reoliad 18 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(2) Mae'r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon ar gyfer apêl o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.
(3) Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.
(4) Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiad neu heb addasiad.
Cosbau
20 

(1) Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18 yn agored —
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na thri mis neu'r ddau, neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(2) Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a phan brofir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o'r canlynol—
(a)  unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb y corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,
mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd.
(3) At ddibenion paragraff (2) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
RHAN 5 Amrywiol
Ffioedd
21 
Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.
Dirymu
22 
Dirymir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991 o ran Cymru.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2010
ATODLEN 1
Crynodiadau neu Werthoedd
Rheoliadau 4, 10, 15 ac 17
RHAN 1 Iachusrwydd

TABL A: PARAMEDRAU MICROBIOLEGOL
Crynodiadau a gwerthoedd rhagnodedig
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau mesur
Escherichia coli (E. coli) 0 Nifer/100ml
Enterococi 0 Nifer/100ml
Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion :  
Escherichia coli (E. coli) 0 Nifer/250ml
Enterococi 0 Nifer/250ml
Pseudomonas aeruginosa 0 Nifer/250ml
Cyfrifiad cytrefi 22°C 100 Nifer/ml
Cyfrifiad cytrefi 37°C 20 Nifer/ml

TABL B: PARAMEDRAU CEMEGOL
Crynodiadau a gwerthoedd rhagnodedig
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau mesur
Acrylamid  0.10 μg/l
Antimoni 5.0 μg/l
Arsenig 10 μg/l
Bensen 1.0 μg/l
Benso(a)pyren 0.010 μg/l
Boron 1.0 mg/l
Bromad 10 μg/l
Cadmiwm 5.0 μg/l
Cromiwm 50 μg/l
Copr 2.0 mg/l
Cyanid 50 μg/l
1, 2 dicloroethan 3.0 μg/l
Epiclorohydrin  0.10 μg/l
Fflworid 1.5 mg/l
Plwm 25 (tan 25 Rhagfyr 2013) μg/l
 10 (o 25 Rhagfyr 2013 ymlaen) μg/l
Mercwri 1.0 μg/l
Nicel 20 μg/l
Nitrad  50 mg/l
Nitraid 0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin) mg/l
Plaleiddiaid —  

 Aldrin 0.030 μg/l

 Dieldrin 0.030 μg/l

 Heptaclor 0.030 μg/l

 Heptalor epocsid 0.030 μg/l

 Plaleiddiaid eraill 0.10 μg/l

 Cyfanswm plaleiddiaid  0.50 μg/l
Hydrocarbonau polysyclig aromatig  0.10 μg/l
Seleniwm 10 μg/l
Tetracloroethen a Thricloroethen  10 μg/l
Trihalomethanau: Cyfanswm  100 μg/l
Finyl clorid  0.50 μg/l








Gofynion cenedlaethol — Crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf neu gyflwr Unedau mesur
Alwminiwm 200 μg/l
Lliw 20 mg/l Pt/Co
Haearn 200 μg/l
Manganîs 50 μg/l
Arogl Derbyniol a dim newid annormal 
Sodiwm 200 mg/l
Blas Derbyniol a dim newid annormal 
Tetracloromethan 3 μg/l
Cymylogrwydd 4 NTU
RHAN 2 Paramedrau dangosyddion

TABL C
Crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf neu gyflwr (oni ddatgenir yn wahanol) Unedau mesur
Amoniwm 0.50 mg/l
Clorid 250 mg/l
Clostridium perfringens  
(gan gynnwys sborau) 0 Nifer/100ml
Bacteria colifform 0 Nifer/100ml
  (Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion)
Cyfrifau cytrefi Dim newid annormal Nifer/1ml ar 22°C
 Dim newid annormal Nifer/1ml ar 37°C
Dargludedd 2500 μS/cm ar 20°C
Ïonau hydrogen 9.5 (gwerth uchaf) gwerth pH
 6.5 (gwerth isaf) (yn achos dŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5) gwerth pH
Sylffad 250 mg/l
Cyfanswm dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd) 0.10 mSv/blwyddyn
Cyfanswm carbon organig (CCO) Dim newid annormal mgC/l
Tritiwm  
(ar gyfer ymbelydredd) 100 Bq/l
Cymylogrwydd 1 NTU



ATODLEN 2
Monitro
Rheoliad 9
RHAN 1 Monitro drwy wiriadau
Samplu
1 

(1) Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy wiriadau yn unol â'r Rhan hon.
(2) Ystyr monitro drwy wiriadau yw samplu ar gyfer pob paramedr yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—
(a) penderfynu a yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu werthoedd yn Atodlen 1;
(b) darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(a) penderfynu pa mor effeithiol fu'r driniaeth a roddwyd i'r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1
Monitro drwy wiriadau
Paramedr Amgylchiadau
Alwminiwm Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Amoniwm Ym mhob cyflenwad
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Bacteria colifform Ym mhob cyflenwad
Cyfrifau cytrefi Ym mhob cyflenwad
Lliw Ym mhob cyflenwad
Dargludedd Ym mhob cyflenwad
Escherichia coli (E. coli) Ym mhob cyflenwad
Crynodiad ïonau hydrogen Ym mhob cyflenwad
Haearn Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Manganîs Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Nitrad Pan arferir cloramineiddio
Nitraid Pan arferir cloramineiddio
Arogl Ym mhob cyflenwad
Pseudomonas aeruginosa Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig
Blas Ym mhob cyflenwad
Cymylogrwydd Ym mhob cyflenwad
Amlder y samplu
2 

(1) Rhaid samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2
Amlder samplu ar gyfer monitro drwy wiriadau
Cyfaint mewn m3/diwrnod Amlder samplu bob blwyddyn
≤ 10 1
> 10 ≤ 100 2
> 100 ≤ 1,000 4
> 1,000 ≤ 2,000 10
> 2,000 ≤ 3,000 13
> 3,000 ≤ 4,000 16
> 4,000 ≤ 5,000 19
> 5,000 ≤ 6,000 22
> 6,000 ≤ 7,000 25
> 7,000 ≤ 8,000 28
> 8,000 ≤ 9,000 31
> 9,000 ≤ 10,000 34
> 10,000 
 4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)
(2) Caiff awdurdod lleol leihau amlder y samplu ar gyfer paramedr i amlder o ddim llai na'r hanner—
(a) os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod ansawdd y dŵr yn y cyflenwad yn annhebygol o ddirywio;
(b) yn achos ïonau hydrogen, os nad fu gwerth pH y paramedr yn is na 6.5 nac yn uwch na 9.5; ac
(c) ym mhob achos arall, os yw canlyniadau'r samplau a gymerwyd at ddibenion monitro'r paramedr dan sylw, ym mhob un o ddwy flynedd ddilynol, yn gyson ac yn sylweddol is na'r crynodiadau neu'r gwerthoedd a bennir yn Atodlen 1.
(2) Caiff yr awdurdod lleol bennu amlder uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw o'r farn ei bod yn briodol cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau unrhyw asesiad risg, ac yn ychwanegol caiff fonitro unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg.
(3) Er gwaethaf y darpariaethau yn is-baragraff (2), rhaid cymryd o leiaf 1 sampl y flwyddyn.
RHAN 2 Monitro drwy archwiliad
Samplu
3 

(1) Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy archwiliad yn unol â'r Rhan hon.
(2) Ystyr monitro drwy archwiliad yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Atodlen 1 (ac eithrio'r paramedrau a samplir eisoes o dan y monitro drwy wiriadau) er mwyn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu a yw'r cyflenwad preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn yr Atodlen honno ac, os defnyddir diheintio, gwirio bod sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb leihau effeithiolrwydd y diheintio.
(3) Caiff yr awdurdod lleol, am ba bynnag gyfnod a benderfynir ganddo, hepgor paramedr o fonitro cyflenwad drwy archwilio—
(a) os yw o'r farn bod y paramedr dan sylw yn annhebygol o fod yn bresennol yn y cyflenwad neu system gyda chrynodiad neu werth sy'n peri risg y gallai'r cyflenwad preifat fethu â bodloni'r crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r paramedr hwnnw;
(b) ar ôl cymryd i ystyriaeth canfyddiadau unrhyw asesiad risg; ac
(c) ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
(4) Caiff fonitro unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg.
Amlder y samplu
4 

(1) Rhaid ymgymryd â samplu yn unol â'r amlderau a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Amlder samplu ar gyfer monitro drwy archwiliad
Cyfaint mewn m3 /diwrnod Amlder samplu bob blwyddyn
≤ 10 1
> 10 ≤ 3,300 2
> 3,300 ≤ 6,600 3
> 6,600 ≤ 10,000 4
> 10,000 ≤ 100,000 3 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod)
> 100,000 10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)
(2) Caiff yr awdurdod lleol osod amlder uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw o'r farn ei bod yn briodol cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau unrhyw asesiad risg.
RHAN 3 Amlderau lleiaf monitro drwy wiriadau a monitro drwy archwiliad ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion

Cyfaint o ddŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion fesul diwrnod (m3) Monitro drwy wiriadau: nifer o samplau bob blwyddyn Monitro drwy archwiliad: nifer o samplau bob blwyddyn
≤ 10 1 1
>10≤60 12 1
> 60 1 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod) 1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod)

ATODLEN 3
Samplu a dadansoddi
Rheoliad 11
RHAN 1 Cyffredinol
Samplau: cyffredinol
1 

(1) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pob sampl—
(a) wedi ei chymryd gan berson cymwys gan ddefnyddio cyfarpar addas;
(b) yn gynrychiadol o'r dŵr yn y pwynt samplu ar adeg y samplu;
(c) heb ei halogi wrth ei chymryd;
(ch) wedi ei chadw ar y cyfryw dymheredd ac o dan y cyfryw amodau a fydd yn sicrhau na ddigwydd unrhyw newid perthnasol yn yr hyn a fesurir; ac
(d) yn cael ei dadansoddi yn ddi-oed, gan berson cymwys sy'n defnyddio cyfarpar addas.
(2) Rhaid iddo sicrhau y dadansoddir y sampl gan ddefnyddio system o reolaethau ansawdd dadansoddi.
(3) Rhaid i'r system honno gael ei gwirio gan berson—
(a) nad yw dan reolaeth y dadansoddwr na'r awdurdod lleol; a
(b) a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
Dadansoddi samplau
2 

(1) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pob sampl yn cael ei dadansoddi yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o'r Atodlen hon, pennir y dull o ddadansoddi yn ail golofn y tabl hwnnw.
(3) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o'r Atodlen hon mae'r dull yn un sydd â'r gallu—
(a) i fesur crynodiadau a gwerthoedd gyda'r gwiredd a thrachywiredd a bennir yn ail a thrydedd golofn y tabl hwnnw; a
(b) i ganfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.
(4) Yn achos ïonau hydrogen, rhaid i'r dull dadansoddi fod â'r gallu i fesur â gwiredd o 0.2 uned pH a thrachywiredd o 0.2 uned pH.
(5) Rhaid i'r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas fod yn alluog i fesur gwerthoedd hafal i'r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanedu ar 25°C
(6) At y dibenion hyn—
 “terfyn canfod” yw—
(a) tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy'n cynnwys crynodiad isel o'r paramedr; neu
(b) pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl gwag;
 “trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwy waith gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr;
 “gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a'r gwir werth.
Awdurdodi dulliau amgen o ddadansoddi
3 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi defnyddio dull gwahanol i'r un a nodir ym mharagraff 2(2) os bodlonir hwy bod y dull hwnnw o leiaf yr un mor ddibynadwy.
(2) Cânt osod terfyn amser ar unrhyw awdurdodiad, a'i ddirymu unrhyw adeg.
Samplu a dadansoddi gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol
4 

(1) Caiff awdurdod lleol ymuno mewn trefniant i unrhyw berson gymryd samplau a'u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.
(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymuno mewn trefniant o dan baragraff (1) oni fydd—
(a) yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy'n gymwys i'w chyflawni, a
(b) wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith ynghylch unrhyw doriad o'r Rheoliadau hyn, ac o unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.
RHAN 2 Dulliau dadansoddi

Tabl 1
Dulliau dadansoddi rhagnodedig
Paramedr Dull
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) Hidlo drwy bilen ac yna deor y bilen yn anerobig ar agar m-CP ar 44 ± 1°C am 21 ± 3 awr. Cyfrifwch y cytrefi melyn di-draidd sy'n troi'n binc neu'n goch ar ôl eu datguddio i anweddau amoniwm hydrocsid am rhwng 20 a 30 eiliad.
Bacteria colifform BS-EN ISO 9308-1
Cyfrifiad cytrefi 22°C — rhestru niferoedd o ficro-organebau meithrinadwy BS-EN ISO 6222
Cyfrifiad cytrefi 37°C — rhestru niferoedd o ficro-organebau meithrinadwy BS-EN ISO 6222
Enterococi BS-EN ISO 7899-2 
Escherichia coli (E. coli) BS-EN ISO 9308-1
Pseudomonas aeruginosa BS-EN-ISO 12780


Tabl 2
Nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi
Paramedrau Gwiredd fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodir Trachywiredd fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodir Terfyn canfod fel % o'r crynodiad neu werth neu fanyleb a ragnodir
Alwminiwm 10 10 10
Amoniwm 10 10 10
Antimoni 25 25 25
Arsenig 10 10 10
Bensen 25 25 25
Benso(a)pyren 25 25 25
Boron 10 10 10
Bromad 25 25 25
Cadmiwm 10 10 10
Clorid 10 10 10
Cromiwm 10 10 10
Lliw 10 10 10
Dargludedd 10 10 10
Copr 10 10 10
Cyanid  10 10 10
1,2-dicloroethan 25 25 10
Fflworid 10 10 10
Haearn 10 10 10
Plwm 10 10 10
Manganîs 10 10 10
Mercwri 20 10 20
Nicel 10 10 10
Nitrad 10 10 10
Nitraid 10 10 10
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol  25 25 25
Hydrocarbonau aromatig polysyclig  25 25 25
Seleniwm 10 10 10
Sodiwm 10 10 10
Sylffad 10 10 10
Tetracloroethen  25 25 10
Tetracloromethan 20 20 20
Tricloroethen  25 25 10
Trihalomethanau:   

 Cyfanswm  25 25 10
Cymylogrwydd  10 10 10
Cymylogrwydd  25 25 25
Nodiadau:






ATODLEN 4
Cofnodion
Rheoliadau 12 a 13
Cofnodion dechreuol
1 

(1) Rhaid i awdurdod lleol, cyn [  ], gofnodi nifer y cyflenwadau preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad unigol, rhaid iddo gofnodi—
(a) enw'r cyflenwad ynghyd â nod adnabod unigryw;
(b) y math o ffynhonnell;
(c) y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;
(ch) amcangyfrif o nifer y bobl a wasanaethir gan y cyflenwad;
(d) amcangyfrif mewn metrau ciwbig o gyfaint dyddiol cyfartalog y dŵr a gyflenwir;
(dd) y math o fangre a gyflenwir;
(e) manylion am unrhyw broses a ddefnyddir i drin y dŵr a'i lleoliad;
(f) enw'r Asiantaeth Diogelu Iechyd y lleolir y cyflenwad yn ei hardal.
(2) Rhaid iddo adolygu a diweddaru'r cofnod, o leiaf unwaith y flwyddyn
(3) Rhaid iddo ddal gafael ar y cofnod am o leiaf 30 mlynedd
Cofnodion ychwanegol
2 

(1) Ar gyfer pob cyflenwad unigol, rhaid iddo gofnodi pob un o'r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd neu gael eu cwblhau—
(a) cynllun a disgrifiad o'r cyflenwad;
(b) y rhaglen ar gyfer monitro'r cyflenwad;
(c) yr asesiad risg;
(ch) dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â'r cyflenwad dan sylw, a'r rheswm dros gymryd y sampl;
(d) canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(dd) unrhyw awdurdodiad;
(e) unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o Ddeddf y diwydiant Dŵr 1991, neu reoliad 18;
(f) unrhyw weithred y cytunir sydd i'w chyflawni gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;
(ff) unrhyw gais a wneir i'r awdurdod lleol am samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;
(g) crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cyflenwad.
(2) Rhaid iddo ddal ei afael yn yr asesiad risg a'r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf ddeng mlynedd ar hugain, a phob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf bum mlynedd.
ATODLEN 5
Ffioedd
Rheoliad 21
Ffi
1 
Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, taladwy pan gyflwynir anfoneb, am y gweithgareddau a nodir yn y tabl canlynol; a swm y ffi fydd cost resymol darparu'r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau canlynol.

Gwasanaeth Uchafswm y ffi (£)
Asesiad risg (am bob asesiad): 500
Samplu (am bob ymweliad unigol) : 100
Ymchwiliad (am bob ymchwiliad unigol): 100
Rhoi awdurdodiad( am bob awdurdodiad unigol): 100
Dadansoddi sampl— 

 a gymerir o dan reoliad 10: 25

 a gymerir yn ystod monitro drwy wiriadau: 100

 a gymerir yn ystod monitro drwy archwiliad: 500

Personau sy'n atebol i dalu
2 

(1) Mae unrhyw berson sy'n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.
(2) Fel arall, mae ffioedd yn daladwy fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol fel y'i diffinnir yn adran 80(7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
(3) Pan fo mwy nag un person yn atebol, yna, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i'r awdurdod lleol—
(a) caiff yr awdurdod lleol rannu'r tâl rhyngddynt; a
(b) rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â'r telerau y cyflenwir y dŵr odanynt.