
2010 Rhif 637 (Cy.63)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) (Diwygio) 2010
Gwnaed 7 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) (Diwygio) 2010.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008
2 
Diwygir Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008 yn unol â'r rheoliad a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o “cwrs dynodedig”, rhodder —“
(b) sy'n cael ei ariannu gan—
(i) Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(ii) y Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
(iii) Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
(iv) y Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009; neu
(v) awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;”.
Diwygio Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2009
4 
Diwygir Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2009 yn unol â'r rheoliad a ganlyn.
5 
Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o “cwrs dynodedig”, rhodder—“
(b) sy'n cael ei ariannu gan—
(i) Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(ii) y Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
(iii) Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
(iv) y Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009; neu
(v) awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2010