
2010 Rhif 612 (Cy.58)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 4 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12, 113 a 116 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “qualifying person” rhodder—“
 “qualifying person” means a person who is liable for the council tax in respect of a dwelling on a particular day, whether or not jointly with any other person, or who would be liable for the council tax in respect of a dwelling on a particular day if that dwelling did not fall within Class O of the Council Tax (Exempt Dwellings) Order 1992;”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010