
2010 Rhif 562 (Cy.57)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010
Gwnaed 2 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae corfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo wedi cydsynio i'r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau corfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Meirion-Dwyfor (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
Diddymu a throsglwyddo
2 
Ar 1 Ebrill 2010 diddymir corfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor a throsglwyddir ei heiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo, sef corff corfforaethol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
Trosglwyddo staff
3 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor yn union cyn 1 Ebrill 2010 fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogid felly;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Meirion-Dwyfor; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at gorfforaeth addysg bellach Coleg Llandrillo.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2010