
2010 Rhif 481 (Cy.50)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010
Gwnaed 24 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mawrth 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7), 50(1) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Ebrill;
 ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad o fewn ystyr adran 15(6) o'r Mesur; ac
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(3) Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sy'n awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, wedi'u cyfansoddi gan gynllun o dan adran 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynllun gwella
2 
Rhaid i awdurdodau gwella Cymreig gyhoeddi eu cynllun gwella cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn berthnasol iddi.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2010