
2010 Rhif 48 (Cy.13)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010
Gwnaed 11 Ionawr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Ionawr 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010

Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1A) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Mehefin 2009 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar hynny;
A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map sy'n dwyn y teitl “Map o Orchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010”.
Newid yn ardaloedd siroedd wedi'u cadw
3 
Trosglwyddir y rhan honno o sir wedi'i chadw Powys a ddangosir â chroeslinellau ar y map ffiniau i sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2010