
2010 Rhif 363 (Cy.45)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010
Gwnaed 17 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Chwefror 2010
Yn dod i rym 15 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, fel y'u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol mewn offerynnau statudol penodedig at Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel y mae Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd yn ei gwneud yn ofynnol, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Mawrth 2010.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn unol â'r paragraffau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Directive 89/398”;
(b) yn syth ar ôl y diffiniad o “Directive 2000/13” mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 “Directive 2009/39” means Directive 2009/39/EC of the European Parliament and of the Council on foodstuffs intended for particular nutritional uses as amended from time to time;”.
(3) Yn rheoliad 3 (esemptiadau), yn lle is-baragraff (iv) o baragraff (1) rhodder yr is-baragraff canlynol–“
(iv) where applicable, the requirements of Directive 87/250, Directive 90/496, Directive 94/54, Directive 99/2 and Directive 2009/39 are met in respect of that food.”.
Diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 yn unol â'r paragraffau a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;”.
(3) Yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder y paragraff canlynol—“
(1) Ni chaiff neb, mewn perthynas â chynnyrch bwyd DMN o fath neilltuol—
(a) sydd yn weithgynhyrchydd neu'n fewnforiwr y cyfeirir ato yn Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb, ond
(b) sydd wedi methu â chydymffurfio—
(i) â gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) o'r Erthygl honno, neu
(ii) â gofyniad i ddangos unrhyw beth i'r awdurdod cymwys, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o baragraff (1) o'r Erthygl honno,
werthu cynnyrch bwyd DMN o'r math hwnnw.”; a
(b) yn is-baragraff (b) o baragraff (2) yn lle “Erthygl 9” rhodder “Erthygl 11”.
(4) Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (datganiad), yn lle “Erthygl 1(2)” rhodder “Erthygl 1(2) a (3)”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
17 Chwefror 2010