
2010 Rhif 2953 (Cy.245)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010
Gwnaed 10 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 5 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 102 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiad dros dro a osodwyd ar 5 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol,
 ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,
(b) pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond ar ôl cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod wedyn i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,
(c) caiff ysgol sy'n darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd ei thrin fel ysgol gynradd os yw'r disgybl a waharddwyd dros dro yn cael addysg gynradd ac fel arall fel ysgol uwchradd.
Dyletswydd i wneud cais am gyfweliad ailintegreiddio
3 

(1) Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir wneud cais i riant disgybl a waharddwyd dros dro, a'r rhiant hwnnw yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r disgybl, fynychu cyfweliad ailintegreiddio yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr achosion a ragnodir yw pan fo disgybl o oed ysgol gorfodol yn cael ei wahardd dros dro ar sail ddisgyblaethol—
(a) o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu
(b) o ysgol uwchradd am unrhyw gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy.
(3) Nid yw achos wedi'i ragnodi—
(a) pan fo'r diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef yn dod o fewn deng niwrnod ysgol diwethaf y tymor diwethaf o unrhyw flwyddyn ysgol, neu
(b) pan fo'r pennaeth yn disgwyl i'r disgybl beidio â mynychu'r ysgol o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) am reswm nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad y disgybl.
Ffurf y cais ac amseriad y cyfweliad
4 

(1) Pan fo'r ddyletswydd yn rheoliad 3 yn gymwys rhaid i'r pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant o'r materion canlynol—
(a) dyddiad, amser a hyd y cyfweliad ailintegreiddio,
(b) diben y cyfweliad, ac
(c) dyletswydd y llys, wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn rhianta ai peidio mewn perthynas â rhiant o dan adran 20 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, i roi ystyriaeth i fethiant gan y rhiant heb esgus rhesymol i fynychu cyfweliad ailintegreiddio pan gaiff gais i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod—
(a) sy'n dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, a
(b) sy'n gorffen ar y pymthegfed diwrnod ysgol sy'n dod ar ôl y diwrnod olaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef (pa un ai a yw'r diwrnod ysgol hwnnw yn dod o fewn yr un tymor ai peidio).
(3) Cyn rhoi'r hysbysiad rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad ar ddyddiad ac ar amser (o fewn y cyfnod) a awgrymir gan y rhiant.
(4) Caniateir cynnal y cyfweliad ar ddiwrnod o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y pennaeth a'r rhiant yn cytuno ar hynny.
(5) Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod ysgol cyn dyddiad y cyfweliad ailintegreiddio.
Cyfuno hysbysiadau
5 
Caniateir cyfuno hysbysiad sy'n ymwneud â chyfweliad ailintegreiddio a roddir yn unol â rheoliad 4 gyda hysbysiad a roddir i'r rhiant yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 (personau rhagnodedig sydd i gael gwybodaeth am unrhyw waharddiad).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2010