
2010 Rhif 2945 (Cy.244)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Benfro) 2010
Gwnaed 8 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 1 Chwefror 2011

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Benfro) 2010 a daw i rym ar 1 Chwefror 2011.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 

(1) Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
(2) Yr ardal a ddynodir yw Sir Benfro.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2010