
2010 Rhif 2922 (Cy.243)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010
Gwnaed 7 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 20 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (b) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ionawr 2011.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n ymwneud â chyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt nodweddion cyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd, ac sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91, Rheoliadau (EC) Rhif 2232/96 ac (EC) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd, yn ôl y digwydd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn y Rheoliad UE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad UE.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliad 3 at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliad UE.
Tramgwyddau a chosbau
3 

(1) Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2) fel y'i darllenir gyda'r trefniadau trosiannol a geir yn Erthygl 30, neu sy'n methu â chydymffurfio â hi neu â hwy, yn euog o dramgwydd.
(2) Mae'r darpariaethau UE fel a ganlyn—
(a) Erthygl 4 (amodau cyffredinol ar gyfer defnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau);
(b) Erthygl 5 (gwahardd cyflasynnau nad ydynt yn cydymffurfio neu fwyd nad yw'n cydymffurfio);
(c) Erthygl 6(1) a (2) (cyfyngiadau ar bresenoldeb sylweddau penodol);
(ch) Erthygl 7 (cyfyngiadau ar ddefnyddio tardd-ddeunyddiau penodol);
(d) Erthygl 10 (cyfyngiad sy'n ymwneud â'r rhestr Gymunedol o gyflasynnau a thardd-ddeunyddiau);
(dd) Erthygl 14(1) (labelu cyflasynnau na fwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf);
(e) Erthygl 17 (labelu cyflasynnau y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf); ac
(f) Erthygl 19(2) a (3) (rhwymedigaethau hysbysu ar weithredwyr busnesau bwyd).
(3) Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Awdurdodau gorfodi
4 
Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad UE.
Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
5 

(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad—
(i) bod is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o fynd yn groes i reoliad 3(2)(a) i (e) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a
(ii) y bernir bod y cyfeiriadau at “sale” yn is-adran (4) yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(c) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);
(d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);
(dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) o'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at y Rheoliad UE.
(3) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y Rheoliad UE a'r Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn eu trefn;
(b) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); ac
(ch) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 3 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
Condemnio bwyd
6 
Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae'n dramgwydd, o dan y Rheoliadau hyn, ei roi ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani) fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996
7 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn cael eu diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle'r diffiniad o “the additives regulations” rhodder y canlynol—“
 “the additives regulations” means the Food Additives (Wales) Regulations 2009, Regulation (EC) No. 1333/2008 of the European Parliament and of the Council on food additives and Regulation 1334/2008 on food flavourings;”;
(b) yn lle'r diffiniad o “flavouring” pan y'i defnyddir fel enw rhodder y canlynol—“
 the noun “flavouring” bears the same meaning as “flavourings” as defined in Article 3(2)(a) of Regulation 1334/2008 on food flavourings;”;
(c) mae'r diffiniadau o “flavouring preparation”, “flavouring substance”, “process flavouring” a “smoke flavouring” yn cael eu hepgor; ac
(ch) ar ôl y diffiniad o “recommended daily allowance” mewnosoder y diffiniad canlynol—
 “Regulation 1334/2008 on food flavourings” means Regulation (EC) No. 1334/2008 of the European Parliament and of the Council on flavourings and certain food ingredients with flavouring properties for use in and on foods and amending Council Regulation (EEC) No. 1601/91, Regulations (EC) No. 2232/96 and (EC) No. 110/2008 and Directive 2000/13/EC;”.
(3) Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion)—
(a) yn lle paragraff (5) rhodder y canlynol—“
(5) Subject to paragraph (5A) and to regulation 34B, where an ingredient being a flavouring is added to or used in a food it shall be identified by either–
(a) the word “flavouring” or, where more than one such ingredient is used, “flavourings”, or
(b) a more specific name or description of the flavouring; or
(c) the expression “smoke flavouring(s)” or “smoke flavouring(s) produced from (insert name of food or food category or source)” if the flavouring component contains smoke flavouring as defined by Article 3(2)(f) of Regulation 1334/2008 on food flavourings and imparts a smoky flavour to the food.”;
(b) yn lle paragraff (6) rhodder y canlynol—“
(6) The word “natural” to describe an ingredient being a flavouring may only be used in accordance with Article 16 of Regulation 1334/2008 on food flavourings as read with Article 30 of that Regulation”; ac
(c) mae paragraffau (7) ac (8) yn cael eu hepgor.
Dirymiadau
8 
Dirymir Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992 a Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Diwygio) 1994 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2010