
2010 Rhif 2917 (Cy.242)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010
Gwnaed 7 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 1 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010;
(2) deuant i rym ar 1 Ionawr 2011; a
(3) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned; ac
 ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru.
(2) Mae i'r termau hynny a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyron â'r termau cyfatebol Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—
(a) planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ac a restrir yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb, a
(b) hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb ai peidio,a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio gwlad neu diriogaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd, neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
Ffioedd
4 

(1) Rhaid i fewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a) y ffi a bennir—
(i) yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu
(ii) yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a
(b) y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(2) Fodd bynnag, os cynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 5 of Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.
Dirymiadau
5 
Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006;
(b) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007
(c) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007;
(ch) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2009;
(d) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2010
ATODLEN 1
Ffioedd Arolygu Mewnforio
Rheoliad 4(1)(a)(i) a 4(2)(a)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu wrthrych arall Nifer Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau —hyd at 10,000 o ran nifer 14.28 21.42
 —am bob 1,000 uned ychwanegol, neu ran o hynny 0.57Hyd at uchafswm o 114.24 0.85Hyd at uchafswm o 171.36
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) —hyd at 1,000 o ran nifer 14.28 21.42
 —am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny 0.35Hyd at uchafswm o 114.24 0.52Hyd at uchafswm o 171.36
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu —hyd at 200 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 —am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.13Hyd at uchafswm o 114.24 0.19Hyd at uchafswm o 171.36
Hadau, meinweoedd meithrin —hyd at 100 kg o ran pwysau 6.12 9.18
 —am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.14Hyd at uchafswm o 114.24 0.21Hyd at uchafswm o 171.36
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon —hyd at 5,000 o ran nifer 14.28 21.42
 —am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny 0.14Hyd at uchafswm o 114.24 0.21Hyd at uchafswm o 171.36
Blodau wedi'u torri —hyd at 20,000 o ran nifer 14.28 21.42
 —am bob 1,000 uned ychwanegol, neu ran o hynny 0.11Hyd at uchafswm o 114.24 0.16Hyd at uchafswm o 171.36
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi'u torri) —hyd at 100 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 —am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.42Hyd at uchafswm o 114.24 2.13Hyd at uchafswm o 171.36
Coed Nadolig wedi'u torri —hyd at 1,000 o ran nifer 14.28 21.42
 —am bob 100 uned ychwanegol, neu ran o hynny 1.42Hyd at uchafswm o 114.24 2.13Hyd at uchafswm o 171.36
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog —hyd at 100 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 — am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.42Hyd at uchafswm o 114.24 2.13Hyd at uchafswm o 171.36
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) —hyd at 25,000 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 — am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.57 0.85
Cloron tatws —hyd at 25,000 kg o ran pwysau 42.84 (fesul lot) 64.26 (fesul lot)
 — am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 42.84 (fesul lot) 64.26 (fesul lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl —hyd at 25,000 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 —am bob ychwanegol 1,000 kg, neu ran o hynny 0.57Hyd at uchafswm o 114.24 0.85Hyd at uchafswm o 171.36
Grawn —hyd at 25,000 kg o ran pwysau 14.28 21.42
 —am bob ychwanegol 1,000 kg, neu ran o hynny 0.57Hyd at uchafswm o 571.20 0.85Hyd at uchafswm o 856.80
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd —Am bob llwyth 14.28 21.42
ATODLEN 2
Ffioedd Arolygu Mewnforio (Cyfraddau Gostyngol)
Rheoliad 4(1)(a)(ii) a 4(2)(b)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4 Colofn 5
Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
   Tan 1 Ionawr 2011 O 1 Ionawr 2011 ymlaen Tan 1 Ionawr 2011 O 1 Ionawr 2011 ymlaen
Blodau wedi'u torri
Dianthus —hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 0.42 0.71 0.63 1.06
  Ecuador 2.14 2.14 3.21 3.21
  Israel 7.12 14.28 10.68 21.42
  Kenya 3.57 0.71 5.35 1.06
  Twrci 3.57 3.57 5.35 5.35
 —am bob 1,000 uned ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.003Hyd at uchafswm o 3.42 0.005Hyd at uchafswm o 5.71 0.004Hyd at uchafswm o 5.13 0.007Hyd at uchafswm o 8.56
  Ecuador 0.01Hyd at uchafswm o 17.14 0.01Hyd at uchafswm o 17.14 0.02Hyd at uchafswm o 25.71 0.02Hyd at uchafswm o 25.71
  Israel 0.06Hyd at uchafswm o 58.17 0.57Hyd at uchafswm o 114.28 0.08Hyd at uchafswm o 87.25 0.85Hyd at uchafswm o 171.42
  Kenya 0.02Hyd at uchafswm o 28.57 0.005Hyd at uchafswm o 5.71 0.04Hyd at uchafswm o 42.85 0.007Hyd at uchafswm o 8.56
  Twrci 0.03Hyd at uchafswm o 28.57 0.03Hyd at uchafswm o 28.57 0.04Hyd at uchafswm o 42.85 0.04Hyd at uchafswm o 42.85
Rosa —hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 0.71 0.42 1.06 0.63
  Ecuador 0.42 0.42 0.63 0.63
  Ethiopia 1.42 0.71 2.13 1.06
  Kenya 1.42 0.71 2.13 1.06
  Tanzania 2.14 1.42 3.21 2.13
  Uganda 14.28 3.57 21.42 5.35
  Zambia 7.14 3.57 10.41 5.35
 — am bob 1,000 uned ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.005Hyd at uchafswm o 5.71 0.003Hyd at uchafswm o 3.42 0.007Hyd at uchafswm o 8.56 0.004Hyd at uchafswm o 5.13
  Ecuador 0.003Hyd at uchafswm o 3.42 0.003Hyd at uchafswm o 3.42 0.004Hyd at uchafswm o 5.13 0.004Hyd at uchafswm o 5.13
  Ethiopia 0.01Hyd at uchafswm o 11.42 0.005Hyd at uchafswm o 5.71 0.015Hyd at uchafswm o 17.13 0.007Hyd at uchafswm o 8.56
  Kenya 0.01Hyd at uchafswm o 11.42 0.005Hyd at uchafswm o 5.71 0.015Hyd at uchafswm o 17.13 0.007Hyd at uchafswm o 8.56
  Tanzania 0.01Hyd at uchafswm o 17.14 0.01Hyd at uchafswm o 11.42 0.02Hyd at uchafswm o 25.71 0.02Hyd at uchafswm o 17.13
  Uganda 0.11Hyd at uchafswm o 114.28 0.02Hyd at uchafswm o 28.57 0.16Hyd at uchafswm o 171.42 0.03Hyd at uchafswm o 42.85
  Zambia 0.05Hyd at uchafswm o 57.14 0.02Hyd at uchafswm o 28.57 0.07Hyd at uchafswm o 85.71 0.03Hyd at uchafswm o 42.85
Ffrwythau
Citrus —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Yr Aifft 3.57 2.14 5.35 3.21
  Honduras 7.14 10.71 10.71 16.06
  Israel 2.14 2.14 3.21 3.21
  Mecsico 3.57 3.57 5.35 5.35
  Moroco 0.71 0.71 1.06 1.06
  Periw 4.99 4.99 7.48 7.48
  Twrci 0.42 0.42 0.63 0.63
  Uruguay 2.14 2.14 3.21 3.21
  UDA 2.14 2.14 3.21 3.21
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Yr Aifft 0.14 0.08 0.21 0.12
  Honduras 0.28 0.42 0.42 0.63
  Israel 0.08 0.08 0.12 0.12
  Mecsico 0.14 0.14 0.21 0.21
  Moroco 0.02 0.02 0.03 0.03
  Periw 0.19 0.19 0.28 0.28
  Twrci 0.01 0.01 0.02 0.02
  Uruguay 0.08 0.08 0.12 0.12
  UDA 0.08 0.08 0.12 0.12
Malus —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Ariannin 1.42 1.42 2.13 2.13
  Brasil 2.14 2.14 3.21 3.21
  Chile 0.99 0.99 1.48 1.48
  Tsieina 3.57 3.57 5.35 5.35
  Seland Newydd 1.42 1.42 2.13 2.13
  De Affrica 1.42 1.42 2.13 2.13
  UDA 3.57 3.57 5.35 5.35
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.05 0.05 0.07 0.07
  Brasil 0.08 0.08 0.12 0.12
  Chile 0.03 0.03 0.04 0.04
  Tsieina 0.14 0.14 0.21 0.21
  Seland Newydd 0.06 0.06 0.08 0.08
  De Affrica 0.06 0.06 0.08 0.08
  UDA 0.14 0.14 0.21 0.21
Mangifera —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Brasil 1.42 7.14 2.13 10.71
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil 0.05 0.28 0.07 0.42
Passiflora —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Colombia 1.42 1.42 2.13 2.13
  Kenya 1.42 1.42 2.13 2.13
  De Affrica 7.14 7.14 10.71 10.71
  Zimbabwe 4.99 4.99 7.48 7.48
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.05 0.05 0.07 0.07
  Kenya 0.05 0.05 0.07 0.07
  De Affrica 0.28 0.28 0.42 0.42
  Zimbabwe 0.19 0.19 0.28 0.28
Prunus —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Ariannin 4.99 4.99 7.48 7.48
  Chile 1.42 1.42 2.13 2.13
  De Affrica 1.42 1.42 2.13 2.13
  Twrci 1.42 1.42 2.13 2.13
  UDA 7.14 3.57 10.71 5.35
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.19 0.19 0.28 0.28
  Chile 0.05 5.08 0.07 0.07
  De Affrica 0.05 0.05 0.07 0.07
  Twrci 0.05 0.05 0.07 0.07
  UDA 0.28 0.14 0.42 0.21
Psidium —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Brasil 10.71 14.28 16.06 21.42
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil 0.42 0.57 0.63 0.85
Pyrus —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Ariannin 2.14 2.14 3.21 3.21
  Chile 4.99 4.99 7.48 7.48
  Tsieina 4.99 4.99 7.48 7.48
  De Affrica 2.14 1.42 3.21 2.13
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.08 0.08 0.12 0.12
  Chile 0.19 0.19 0.28 0.28
  Tsieina 0.19 0.19 0.28 0.28
  De Affrica 0.08 0.05 0.12 0.07
Llysiau
Solanum melongena —hyd at 25,000 kg o ran pwysau Twrci 1.42 1.42 2.13 2.13
 — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Twrci 0.05 0.05 0.07 0.07
Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, ni chynhwysir y swm hwnnw.
ATODLEN 3
Ffioedd Arolygu Mewnforio ar gyfer Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod
Rheoliad 4(1)(b)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gwiriad Nifer Ffi (£)
Gwiriad dogfennol Fesul llwyth 5.71
Gwiriad adnabod Fesul llwyth 
 —hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb 5.71
 —mwy na'r maintioli uchod 11.42