
2010 Rhif 2916 (Cy.241)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (Rhif 2) 2010
Gwnaed 7 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 1 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 188(1) a (2)(d) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (Rhif 2) 2010 a daw i rym ar 1 Ionawr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio is-ddeddfau 24 a 25 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru
2 

(1) Yn is-ddeddf 24 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru –
(a) ym mharagraff (b), yn lle “For the purposes of Section 37 (2) of the Salmon Act 1986, the” rhodder “The”; a
(b) ym mharagraff (c), yn lle “For the purposes of Section 37(1) of the Salmon Act 1986, any” rhodder “Any”.
(2) Yn is-ddeddf 25 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru—
(a) ym mharagraff (c), yn lle “For the purposes of section 37(1) of the Salmon Act 1986, no” rhodder “No”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2010