
2010 Rhif 2889 (Cy.239)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 1 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2010
YR ATODLEN
Rheoliad 2

“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES



Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 53,944
Bridgend 105,470
Caerphilly 133,994
Carmarthenshire 143,303
Cardiff 267,899
Ceredigion 62,925
Conwy 89,239
Denbighshire 76,791
Flintshire 117,787
Gwynedd 94,780
Isle of Anglesey 54,620
Merthyr Tydfil 43,304
Monmouthshire 69,372
Neath Port Talbot 108,807
Newport 107,849
Pembrokeshire 92,218
Powys 105,104
Rhondda Cynon Taf 183,906
Swansea 185,888
Torfaen 70,937
Vale of Glamorgan (The) 96,870
Wrexham 104,932
”
