
2010 Rhif 2825 (Cy.232)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2010
Gwnaed 23 Tachwedd 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Tachwedd 2010
Yn dod i rym 6 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2010, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 6 Ionawr 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae “hectar cymwys” (“eligible hectare”) i'w ddehongli yn unol ag Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y mae'r naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol;
 ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2010, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2009 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2010, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2010
YR ATODLEN
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthygl 2



Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 384.00
Buchod bridio cig eidion: Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch —100.00
 Ar dir arall buwch —113.00
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen —184.00 
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 116.00 
Mamogiaid: Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog 9.00
 Ar dir arall mamog 15.00
Ŵyn stôr (gan gynnwys Ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 3.50
Moch: hychod a banwesod torrog Hwch neu fanwes 314.00
 moch porc y pen 11.10
 moch torri y pen 14.00
 moch bacwn y pen 16.70
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.25
 brwyliaid aderyn 0.35
 cywennod ar ddodwy aderyn 0.75
Tyrcwn Nadolig aderyn 7.30
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 58.00
Ffa hectar 23.00 
Rêp had olew hectar 108.00
Pys sych hectar 186.00 
Tatws: cynnar cyntaf hectar 2743.00
 prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2045.00
Betys siwgr hectar 764.00
Gwenith hectar 199.00
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 2790.00
Ffrwythau meddal hectar 6470.00
4. Tir porthiant
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 
5. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2009, yn hectar| cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 tir dan anfantais ddifrifol, ac eithrio rhostir hectar 147.55
 tir dan anfantais hectar 185.48
 pob tir arall hectar 135.20




