
2010 Rhif 2712 (Cy.228)
ANIFEILIAID, CYMRULLES ANIFEILIAID
Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 9 Tachwedd 2010
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 o ran Cymru, ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau y cyfeirir atynt yn adran 5(5) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, cafodd offeryn drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.
(3) Maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “iâr ddodwy”, mewnosoder—“
 ystyr “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol” (“conventionally reared meat chicken”) yw anifail o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir er mwyn cynhyrchu cig, ac eithrio—
(a) un sydd ar ddaliad gyda llai na 500 o anifeiliaid o'r fath neu gyda stociau bridio anifeiliaid o'r fath yn unig;
(b) un y gellir defnyddio'r term “Extensive indoor (barn reared)” (“A fegir yn helaeth dan do (mewn cytiau)”), “Free range” (“Iâr fuarth”), “Traditional free range” (“Iâr fuarth– dull traddodiadol”) neu “Free range – total freedom” (“Iâr fuarth – dull hollol rydd”) o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod;
(c) un a fegir yn organig yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig ac sy'n dirymu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91;”.
(3) Yn Atodlen 4 (Adar: Gofynion Wrth Roi Triniaethau Penodol a Ganiateir)—
(a) yn lle paragraff A1 (pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1), rhodder—“
Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1
A1 
Ni chaniateir rhoi'r triniaethau a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1, ac eithrio tocio pigau (gweler paragraff 5), ar y canlynol—
(1) ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol; neu
(2) iâr ddodwy, neu gyw y bwriedir iddo fod yn iâr ddodwy, a gedwir mewn sefydliad sydd â 350 neu fwy o adar o'r fath.”
(b) yn lle paragraff 5 (tocio pigau dofednod), rhodder—“
5 
Tocio pigau dofednod
(1) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid i'r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas.
(2) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid atal unrhyw waedlif sy'n dod o'r big yn sgil hynny drwy ei serio.
(3) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid rhoi'r driniaeth a ganlyn—
(a) y big uchaf a'r big isaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean o bob un wedi ei dynnu, neu
(b)  y big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu.
(4) Ar gyfer ieir dodwy a chywion y bwriedir iddynt ddod yn ieir dodwy, a gedwir mewn sefydliadau sydd â 350 neu fwy o adar o'r fath–
(a) caniateir tocio pigau yn unig er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth;
(b) caniateir tocio pigau yn unig drwy ddefnyddio technoleg is-goch;
(c) ni chaniateir tocio pigau adar sy'n 10 niwrnod oed neu drosodd; ac
(ch) rhaid i'r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan berson a gafodd wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi'r driniaeth.
(5) Nid yw is-baragraffau (4)(b) ac (c) yn gymwys os rhoddir y driniaeth mewn argyfwng er mwyn rheoli brigiad o bigo plu neu ganibaliaeth.
(6) Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol–
(a) caniateir i'r driniaeth gael ei rhoi yn unig er mwyn atal pigo plu a chanibaliaeth;
(b) ni chaniateir i'r driniaeth gael ei rhoi i adar sy'n 10 niwrnod oed neu drosodd;
(c) rhaid i'r driniaeth gael ei rhoi gan berson a gafodd wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi'r driniaeth; ac
(ch) rhaid i'r driniaeth gael ei rhoi yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg a chael cyngor ganddo.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2010