
2010 Rhif 2657 (Cy.222)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2010
Gwnaed 25 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Tachwedd 2010
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adran 124(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a pharagraffau 21, 22 a 25 o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac ar ôl ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2010. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996
2 

(1) Yn rheoliad 18 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996, ar ôl paragraff (4), mewnosoder y canlynol—“
(4A) Nothing in this regulation requires the placing of any traffic sign on or near a road, or the maintenance of such signs, in a special enforcement area in Wales, for the purpose of providing information to road users as to the effect of section 85 or 86 of the Traffic Management Act 2004 in that area.”.
(2) Yn rheoliad 18, paragraff (5), dileer y geiriau “In paragraph (4)” ac yn eu lle rhodder “In paragraphs (4) and (4A)”.
Ieuan Wyn Jones
Y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2010