
2010 Rhif 2623 (Cy.218)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 41, Slipffordd Ymadael tua'r Gorllewin, Cylchfan Sunnycroft, Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2010
Gwnaed 25 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Hydref 2010
Yn dod i rym 18 Tachwedd 2010
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac ar ôl ymgynghori â'r fath gyrff cynrychioliadol ag y tybiwyd oedd yn briodol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Tachwedd 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 41, Slipffordd Ymadael tua'r Gorllewin, Cylchfan Sunnycroft, Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2010.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder
3 
Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o'r slipffordd ymadael tua'r gorllewin oddi ar Gyffordd 41 traffordd yr M4 sy'n ymestyn o bwynt 330 o fetrau i'r de-ddwyrain o'i chyffordd â'r gerbytffordd gylchynnol ar Gylchfan Sunnycroft, Baglan, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hyd at bwynt lle mae'n ymuno â'r gerbytffordd gylchynnol honno.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2010