
2010 Rhif 2585 (Cy.217)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010
Gwnaed 21 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Hydref 2010
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny a ystyrir yn briodol ganddynt, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 22(1), 42(1), 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 
Yn y Rheoliadau hyn, oni fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Prif Reoliadau ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
3 

(1) Mae'r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) paragraff (1)—
(a) yn lle'r diffiniad o “cynllun lleoli oedolion” rhodder—
 ystyr “cynllun lleoli oedolion” (“adult placement scheme”) yw cynllun y gwneir trefniadau oddi tano, neu y bwriedir gwneud trefniadau oddi tano, i ddim mwy na thri oedolyn gael llety a chael gofal personol yng nghartref person nad yw'n berthynas iddynt;”;
(b) yn y diffiniad o “perthynas”, hepgorer is-baragraff (ch).
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
4 
Mae rheoliadau 46 a 47 o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 wedi eu hepgor.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2010