
2010 Rhif 2543 (Cy.212) (C.122)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010
Gwnaed 18 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006,
 ystyr “Deddf 1996” (“the EA 1996”) yw Deddf Addysg 1996.
Diwrnodau penodedig
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—
(a) adran 88;
(b) adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) adrannau 90 a 91;
(ch) adran 92 ac eithrio isadran 8(b):
(d) adrannau 93 i 95;
(dd) adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e) adran 97;
(f) adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ff) adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;
(g) adran 108:
(ng) adran 167;
(h) adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);
(i) yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—
 yn Neddf 1996, adrannau 550A a 550B,
 yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 61 (yn llawn),
 yn Neddf Addysg 1997, adrannau 4 a 5,
 yn Neddf Addysg 2002, y diffiniad o “pupil” yn adran 176(3),
 yn Neddf Gofal Plant 2006, paragraff 42 o Atodlen 2.
3 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 5 Ionawr 2011 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adrannau 98 a 99; a
(b) adran 102.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2010