
2010 Rhif 2448 (Cy.211)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2010
Gwnaed 6 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Hydref 2010
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992
2 

(1) Diwygir Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(1)(b) o Atodlen 1, yn lle'r geiriau “a qualification accredited by” hyd at y diwedd rhodder—“
 
(i) a qualification to which Part 7 of the Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009 applies which is awarded or authenticated by a body which is recognised by the Office of Qualifications and Examinations Regulation under section 132 of that Act in respect of the qualification, or
(ii) a qualification accredited by the Scottish Vocational Education Council, or
(iii) a “relevant qualification” within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997 which is awarded or authenticated by a body recognised by the Welsh Ministers under section 30(1)(e) of that Act in respect of the qualification.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2010