
2010 Rhif 2394 (Cy.206)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010
Gwnaed 28 Medi 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Medi 2010
Yn dod i rym 22 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiad i'r offeryn UE fel y pennir yn rheoliad 2(4) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau ynghylch materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Hydref 2010.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 mae i “bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn darged” yr ystyr a roddir i (“'non-target feed'”) gan Reoliad y Comisiwn 124/2009;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn 629/2008” (“Commission Regulation 629/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn 124/2009” (“Commission Regulation 124/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer presenoldeb cocsidiostatau neu histomonostatau mewn bwyd o ganlyniad i drosglwyddiad anochel y sylweddau hyn mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn darged;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” 165/2010” (“Commission Regulation 165/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 165/2010 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran afflatocsinau ;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd, yn ôl y digwydd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo'n cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad y Comisiwn 124/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.
(3) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at “yr Atodiad” yn gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel y diwygir yr Atodiad hwnnw o bryd i'w gilydd, ac mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn i'w ddehongli'n unol â hynny.
Tramgwyddau a chosbau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a gynhwysir—
(a) yn Erthygl 11;
(b) yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 629/2008; neu
(c) yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 165/2010,
mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2), neu sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, yn euog o dramgwydd.
(2) Y darpariaethau UE a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yw—
(a) Erthygl 1(1), (gwahardd rhag rhoi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd sy'n cynnwys halogion y tu hwnt i derfynau rhagnodedig sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodiad), fel y'i darllenir gyda'r Atodiad ac, yn achos cnau daear, hadau olew eraill, cnau coed, ffrwythau sych, reis ac indrawn, gydag Erthygl 4;
(b) Erthygl 3 (gwahardd rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno);
(c) Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (gwaharddiadau ar farchnata neu gymysgu bwydydd sy'n cynnwys cocsidiostatau neu histomonostatau ar lefelau y tu hwnt i derfynau rhagnodedig).
(3) Mae unrhyw un a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gorfodi ac awdurdodau cymwys
4 

(1) Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn a Rheoliad y Comisiwn 124/2009.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion—
(a) Erthygl 2(2) (cyfiawnhau gan weithredwyr busnes bwyd ffactorau crynodi neu wanedu), a
(b) Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i ymchwilio i'r rhesymau dros yr halogiad),
yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno i orfodi o dan baragraff (1).
Cymhwyso amryw adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
5 

(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad bod—
(i) is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a
(ii) yn is-adran (4) bernir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i'w ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd dan amheuaeth ac ymafael ynddo) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—“
9 

(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below are to apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food fails to comply with the requirements specified in regulation 3(2)(a) and (c) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2010, (“the EU requirements”).
(2) The authorised officer may either—
(a) give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—
(i) is not to be used for human consumption, and
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by law; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, that officer must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not the food complies with the EU requirements and—
(a) if satisfied that it does comply, must forthwith withdraw the notice;
(b) if not so satisfied, must seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, that officer must inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and—
(a) any person who in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food must, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with under this section fails to comply with the EU requirements the justice must condemn the food and order—
(a) the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority must compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”.
(3) Mae'r ymadroddion Cymraeg “swyddog awdurdodedig” ac “awdurdod bwyd” sy'n cyfateb i'r ymadroddion Saesneg “authorised officer” a “food authority” sy'n cael eu defnyddio yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), i ddwyn, at y dibenion hynny, yr ystyron sy'n cael eu dwyn gan yr ymadroddion hynny yn ôl eu trefn yn y Rheoliadau hyn.
Diwygiad canlyniadol
6 
Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009, rhoddir y cofnod a ganlyn—“
The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2010 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations) S.I. 2010/2394 (Cy.206).”
Dirymu
7 
Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2010