
2010 Rhif 2217 (Cy.193)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010
Gwnaed 6 Medi 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2010
Yn dod i rym 1 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 96(10) a 97(3) o Deddf Cydraddoldeb 2010, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Y rheoleiddiwr priodol
2 
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhagnodi fel y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â chorff cymwysterau sy'n rhoi cymwysterau yng Nghymru.
Cymwysterau Perthnasol
3 
Mae'r cymwysterau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi'n gymwysterau perthnasol mewn perthynas â rhoi cymwysterau yng Nghymru.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2010
YR ATODLEN
Rheoliad 3
1 
Dyfarniadau Uwch Estynedig
2 
Cymwysterau tystysgrif lefel mynediad
3 
Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
4 
Sgiliau Gweithredol
5 
Tystysgrif Addysg Gyffredinol lefel A (U ac UG)
6 
Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
7 
Y Fagloriaeth Ryngwladol
8 
Sgiliau Allweddol a Sgiliau Hanfodol Cymru
9 
Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect
10 
Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru