
2010 Rhif 2021 (Cy.189)
PRIDIANNAU TIR, CYMRU
Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Diwygio) (Cymru) 2010
Gwnaed 8 Awst 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Awst 2010
Yn dod i rym 31 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheolau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Arglwydd Ganghellor gan adran 14 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Diwygio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 31 Awst 2010.
(2) Mae'r Rheolau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheolau Pridiannau Tir Lleol 1977
2 
Yn Atodlen 3 (Ffioedd) i Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977, hepgorir eitem 5 (chwiliad personol yn y gofrestr gyfan neu mewn rhan ohoni).
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru
8 Awst 2010