
2010 Rhif 194 (Cy.29)
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Diwygio) 2010
Gwnaed 2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Chwefror 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 94(4) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Diwygio) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) 2002
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) 2002 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 3(1)(a)(i), yn lle “adran 509 o Ddeddf Addysg 1996” rhodder “adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010