
2010 Rhif 192 (Cy.27)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Chwefror 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16 a 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009 wedi'u diwygio drwy ychwanegu ar ôl paragraff 3 o Ran 1 o'r Atodlen y canlynol —“
4 
Y cod ymddygiad wrth deithio a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o'r Mesur.”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010