
2010 Rhif 1892 (Cy.185)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010
Gwnaed 22 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym 16 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau'r UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw' r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 16 Awst 2010.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009; ac
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Rhanbarth
3 
Mae Cymru yn rhanbarth sengl at ddibenion Erthygl 46(2) o Reoliad y Cyngor.
Maint lleiaf daliad ar gyfer sefydlu hawlogaethau
4 
At ddibenion Erthygl 25(4) o Reoliad y Comisiwn maint lleiaf daliad y ceir gwneud cais am sefydlu hawlogaethau i daliad ar ei gyfer yw 0.3 hectar.
Hawliad lleiaf
5 
At ddibenion Erthygl 28(1) o Reoliad y Cyngor y lleiafswm sy'n ofynnol ar gyfer hawliad yw un hectar yn achos ffermwyr nad ydynt yn dal hawlogaethau arbennig yn unol â'r Erthygl honno, a 100 yn achos ffermwyr sy'n dal hawlogaethau arbennig.
Dyddiad pan fo rhaid i dir cymwys fod ar gael at ddefnydd y ffermwr
6 
Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn pan fo'r ffermwr yn gwneud datganiad ynglŷn â pharseli yn unol ag Erthygl 35(1) o Reoliad y Cyngor, y dyddiad pan fo rhaid i'r parseli hynny fod ar gael at ddefnydd y ffermwr yw 15 Mai yn y flwyddyn honno.
Modiwleiddio gwirfoddol
7 
Y cyfraddau yn nhrydedd golofn yr Atodlen yw'r modiwleiddio gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 dyddiedig 27 Mawrth 2007 sy'n pennu rheolau ar gyfer modiwleiddio yn wirfoddol y taliadau uniongyrchol.
Coedlannau cylchdro byr
8 
At ddibenion Erthygl 2(n) o Reoliad y Comisiwn—
(a) y rhestr o rywogaethau coed yw—
 Gwern (Alnus spp.);
 Bedw (Betula spp.);
 Cyll (Corylus avellana);
 Ynn (Fraxinus excelsior);
 Pisgwydd (Tilia cordata);
 Castanwydd (Castanea sativa);
 Masarn (Acer pseudoplatanus);
 Helyg (Salix spp.);
 Poplys (Populus spp.);
 Oestrwydd (Carpinus spp.); a
(b) y cylchdro cynaeafu hwyaf yw 20 mlynedd.
Hawlogaethau i daliad
9 
Yn unol â'r trydydd is-baragraff o Erthygl 43(1) o Reoliad y Cyngor, ni cheir defnyddio na throsglwyddo hawlogaethau i daliad o dan y cynllun taliad sengl, sydd i' w priodoli i Gymru ac a sefydlwyd yng Nghymru, ac eithrio o fewn Cymru.
Dirymu
10 
Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005;
(b) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006;
(c) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2008;
(ch) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2009;
(d) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005;
(dd) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Gorffennaf 2010
ATODLEN
Cyfraddau modiwleiddio gwirfoddol
Rheoliad 7

Ar gyfer symiau hyd at a chan gynnwys 5,000:
Blwyddyn Modiwleiddio gorfodol yr UE Modiwleiddio gwirfoddol Cyfanswm y modiwleiddio
2009 0% 4.2% 4.2%
2010 0% 5.8% 5.8%
2011 0% 6.5% 6.5%
2012 0% 6.5% 6.5%

Ar gyfer symiau dros 5,000 a hyd at a chan gynnwys 300,000:
Blwyddyn Cyfraddau modiwleiddio gorfodol yr UE, a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor Modiwleiddio gwirfoddol Cyfanswm y modiwleiddio
2009 7% 2.2% 9.2%
2010 8% 2.8% 10.8%
2011 9% 2.5% 11.5%
2012 10% 1.5% 11.5%

Ar gyfer symiau dros 300,000:
Blwyddyn Cyfraddau modiwleiddio gorfodol yr UE, a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor Modiwleiddio gwirfoddol Cyfanswm y modiwleiddio
2009 11% 0% 11%
2010 12% 0% 12%
2011 13% 0% 13%
2012 14% 0% 14%