
2010 Rhif 1890 (Cy.184)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 20 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym 13 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2( 2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriad at yr offeryn UE yn y Rheoliadau hyn gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Deuant i rym ar 13 Awst 2010.
Diwygio
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y diffiniad o “samplau rheoli swyddogol”—
(i) hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (b);
(ii) hepgorer yr atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (c) a rhodder “; neu” yn ei le;
(iii) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(ch) pwynt 1(b)(iii) o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 584/2008 sy'n gweithredu Rheoliad 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn tyrcwn, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Gorffennaf 2010